Mae cerddwr wedi sôn am y sioc a gafodd o weld ‘Cysgod ar Gwmwl’, a elwir hefyd yn ‘Bwganod Brocken’, wrth gerdded yn Eryri.

Roedd Liam Roberts, gyrrwr lori o Fangor, yn dringo Moel Eilio pan welodd y ffenomen.

Mae’n ymddangos mewn amodau penodol pan mae golau’r haul yn disgleirio ar berson sy’n sefyll ar uchder mewn niwl, gan daflu cysgod anferthol ohono’i hun ar anwedd dŵr sy’n gallu ymddangos fel pe bai’n symud.

Gallan nhw ymddangos gyda lliwiau’r enfys yn eu hamgylchynu, fel y gwelodd Liam Roberts.

“Dydw i erioed wedi gweld unrhyw beth fel hyn o’r blaen… Does gen i ddim geiriau,” meddai’r gŵr 35 oed.

“Fe wnes i droi rownd i edrych ar y golygfeydd a gweld y cylch hwn. Roeddwn i’n meddwl  ei fod yn rhyw o enfys fath i fod yn onest, ond roedd yn dal i fynd yn fwy disglair… yna diflannodd, cyn dod yn ôl am tua phedair munud.

“Roedd yn anghredadwy, doeddwn i ddim yn gallu tynnu fy llygaid oddi arno, roedd o mor anghredadwy, cefais fy syfrdanu.”

Dywedodd Liam Roberts ei fod yn cerdded i helpu gyda’i iechyd meddwl a’i fod wedi dringo Moel Eilio’r wythnos diwethaf i weld yr haul yn codi.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, cafodd y term ‘Bwganod Brocken’ ei greu gan y gweinidog a gwyddonydd naturiol Almaenig, Johann Silbersclaag, yn 1780.

Roedd yn cyfeirio at gopa Brocken ym mynyddoedd Harz.

Caiff ei grybwyll mewn llenyddiaeth glasurol, gan gynnwys gwaith Charles Dickens a Lewis Carroll.