Mae Ken Skates wedi cyhoeddi fod gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru wedi cefnogi 750 o entrepreneuriaid i ddechrau busnes neu i ddod yn hunangyflogedig yn ystod pandemig y coronafeirws.

Dywed Ysgrifennydd yr Economi fod hyn wedi arwain at sefydlu busnesau mewn amrywiaeth o sectorau, megis cynhyrchu a manwerthu, adeiladu, creadigol a gwasanaethau bwyd a diod.

Mae hefyd yn dangos bod llawer o entrepreneuriaid yn canolbwyntio ar ddatblygu presenoldeb digidol eu busnes a bod nifer y busnesau sy’n seiliedig yn y gymuned wedi cynyddu.

Yn ogystal â’r pecyn cymorth digyffelyb i fusnesau, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyfleoedd i ailhyfforddi ac uwchsgilio mewn ardaloedd newydd a rhai sydd â photensial i dyfu, diolch i fuddsoddiad o bron i £40 miliwn.

Yn ôl Ken Skates, mae’r cyllid hwn wedi sicrhau y gall unrhyw un dros 16 oed yng Nghymru gael cyngor a chymorth i ddod o hyd i waith, mynd ar drywydd hunangyflogaeth neu ddod o hyd i le mewn addysg neu hyfforddiant.

Un elfen o becyn cymorth Llywodraeth Cymru yw’r Gronfa Rhwystrau gwerth £1.2m sydd wedi’i chynllunio i helpu pobl anabl, Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, menywod a phobol ifanc nad ydynt mewn addysg na hyfforddiant, i gael cymorth wedi’i dargedu i’w helpu i ddechrau eu busnes eu hunain.

“Un o’r cyfnodau mwyaf heriol y mae unrhyw un ohonom wedi’i brofi erioed”

“Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi cymryd camau pwysig i ddiogelu swyddi a darparu cyfleoedd newydd i unigolion gan gynnwys drwy hunangyflogaeth,” meddai Ken Skates.

“Mae wedi bod yn un o’r cyfnodau mwyaf heriol y mae unrhyw un ohonom wedi’i brofi erioed.

“Mae’r pandemig wedi trawsnewid sut rydym i gyd yn byw ac yn gwario ein harian ac rwy’n falch iawn bod cynifer o bobl wedi gallu cael mynediad i’n pecynnau cymorth nid yn unig i oroesi yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn, ond i gymryd y cam dewr o ddechrau menter newydd.

“Byddwn yn dod allan o’r pandemig hwn ac mae’r Genhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi a lansiais yr wythnos hon yn nodi ein gweledigaeth o ran sut y byddwn yn gwneud hynny.

“Y nod yw y bydd economi ôl-bandemig Cymru yn sbarduno ffyniant yn gyfartal ac yn helpu pawb i wireddu eu potensial.

“Mae harneisio diwylliant entrepreneuraidd bywiog i greu mwy o fusnesau newydd yn rhan allweddol o hyn.”