Mae actor a chyfarwyddwr sydd wedi cydweithio ar sioe ryngweithiol newydd i blant yn dweud bod cyfnod y pandemig yn gyfle i’r diwydiant “newid a gwella” a chwilio am fwy o gyfleoedd ar y We.

Dyna farn Gareth Bale sy’n adnabyddus am bortreadu’r cawr rygbi Ray Gravelle yn y ddrama Grav, ac am ei rannau yn y ffilm Apostle a chyfresi fel 35 Awr ar S4C.