Mae adroddiadau bod staff carchar y Berwyn yn Wrecsam wedi ymosod ar garcharor sy’n siarad Cymraeg, Rhodri ab Eilian, lai na phythefnos wedi iddo gwyno am beidio cael siarad yr iaith yno.

Ar Ionawr 31, adroddodd golwg360, fod Undod a rhwydwaith y Prisoner Solidarity Network yn cydweithio er mwyn rhoi terfyn ar erledigaeth yn erbyn siaradwyr Cymraeg yng ngharchar y Berwyn yn y gogledd.

Yn ôl y Prisoner Solidarity Network, mae’r ymosodiad honedig arno yng Ngharchar y Berwyn yn enghraifft glir o ymateb treisgar i’r ffaith fod Rhodri ab Eilian wedi trafod ei brofiadau yn y carchar yn gyhoeddus.

Ac yn dilyn yr ymosodiad honedig ddydd Mercher (Chwefror 10), mae’r Prisoner Solidarity Network yn dweud fod un aelod o staff wedi bygwth trais pellach, gan ddweud wrth garcharor arall ei fod yn mynd i “fwrw ei ben bach i mewn”.

“Rydyn ni’n cael ein gwahanu yma”

Cafodd Rhodri ab Eilian, sy’n wreiddiol o Nant Peris, ger Llanberis, ei garcharu ym mis Ebrill 2020 ar ôl bygwth staff meddygfa gyda chyllell a mynnu eu bod yn rhoi ei dabledi iddo.

Yn dilyn ei garcharu yn y Berwyn, roedd wedi dweud fod carcharorion yn cael rhybudd y bydden nhw’n colli eu breintiau am siarad Cymraeg yn y carchar, bod oedi o fis a mwy wrth dderbyn post yn y Gymraeg, a bod siaradwyr yr iaith yn cael eu gwahanu oddi wrth ei gilydd yno.

“Rydyn ni’n cael ein gwahanu yma,” meddai.

“Mae staff y carchar yn hiliol tuag at siaradwyr Cymraeg a phobl ddu. Maen nhw bob amser yn cwestiynu pam fy mod i’n siarad Cymraeg.

“Os ydw i’n siarad Cymraeg gyda rhywun, maen nhw’n o gwmpas y lle fel piwiaid ac yn eich annog i beidio â siarad Cymraeg.”

Galw am gamau disgyblu yn erbyn y staff sy’n gyfrifol

Ers i Nick Leader gael ei benodi’n Llywodraethwr ar y carchar yn 2019, y Berwyn sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf mewn trais a hunan-niweidio o blith holl garchardai Cymru.

Mae’r Prisoner Solidarity Network yn galw ar bobol i gysylltu â’r awdurdodau perthnasol i fynnu diogelwch Rhodri ab Eilian a sicrhau bod camau disgyblu’n cael eu cymryd yn erbyn y staff sy’n gyfrifol.

Wrth ymateb i ymholiad gan golwg360 ynghylch yr honiadau, dywedodd Nick Leader: “Oherwydd rheolau gwarchod data, nid oes gennyf awdurdod i drafod materion heb ganiatâd Mr ab Eilian.

“Byddwn yn darparu ffurflen ganiatâd iddo.”

“Annerbyniol”

Mewn cynhadledd i’r Wasg ar ddydd Llun, Chwefror 1 – yn ymateb i’r cwynion cychwynnol fod carcharorion yn cael eu hatal rhag siarad Cymraeg – fe ddywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, Eluned Morgan bod y sefyllfa yn “annerbyniol”.

“Dydyn ni ddim yn hapus o gwbl i glywed nad ydy pobl yn gallu siarad Cymraeg mewn unrhyw le ac yn sicr mewn carchar sydd yng Nghymru,” meddai.

“Mae hwn yn rhywbeth sydd yn hollol annerbyniol ac mi fyddwn ni’n edrych mewn i’r sefyllfa os yw hynny’n briodol.”