Cafodd sgwrs rithiol a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur, ei hacio nos Iau (Chwefror 4) gan berson yn gweiddi, rhegi, a rhannu sylwadau islamoffobig

Arweinydd y sgwrs, oedd Yr Athro David Austin, academydd adnabyddus ym maes archeoleg.

Rhaid oedd ailgychwyn y sgwrs ddwywaith – cyn cymryd y penderfyniad i ohirio am y tro.

“Yr unig beth oedd e eisiau oedd gweiddi a bod yn hollol hiliol”

Wrth drafod y digwyddiad, dywedodd un person y byddai’n well ganddynt beidio cael eu henwi:

“Roedd nifer helaeth o bobl yn disgwyl ymlaen i glywed Dr David Austin, oherwydd ma’ fe’n dipyn o arbenigwr ar Ystrad Fflur a beth sy’n digwydd gyda’r ymddiriedolaeth.

“Ond yn amlwg, doedd dim diddordeb gan y person hwn beth oedd yn cael ei ddweud – yr unig beth oedd e eisiau oedd gweiddi a bod yn hollol hiliol.

“Gadawodd pawb ac ailddechreuwyd y cyflwyniad ac erbyn y drydedd sleid, roedd y person wedi dod i mewn eto ac wedi dechrau ysgrifennu sylwadau, geiriau a symbolau ar draws y sgrin.

“Roedd rhaid canslo am yr ail waith – a chanslwyd yn llwyr wedyn.

“Os oedd e’n gallu amharu ar unrhyw gyfarfod Zoom, bydde chi’n meddwl efallai y byddai wedi ffeindio cyfarfod mwy buddiol i’w ddaliadau e.”

Bwriad y sgwrs oedd trafod gwaith atgyweirio ar dŷ yn Ystrad Fflur ac mae cynlluniau ar waith i ail-drefnu’r noson, er nad yw dyddiad wedi’i gadarnhau hyd yn hyn.

David Austin a rhan o'r ffermdy carreg y tu cefn iddo
Dr David Austin o flaen ffermdy hynafol Ystrad Fflur – caiff ei sgwrs ei aildrefnu