Sameena Imam
Mae dau frawd wedi’u cael yn euog o lofruddio dynes o Gaerdydd ar noswyl Nadolig.

Yn Llys y Goron Birmingham heddiw cafwyd Roger Cooper, 41 oed, a weithiai fel rheolwr yn siop Costco, ynghyd â David Cooper, 39 oed, oedd yn gyn-filwr, yn euog o ladd Sameena Imam, 34 oed y llynedd.

Daethpwyd o hyd i’w chorff mewn rhandir yng Nghaerlŷr ym mis Ionawr ar ôl cael ei lladd â chlorofform.

Roedd Sameena Imam, a oedd yn byw yng Nghaerdydd, wedi cynnal perthynas am ddwy flynedd â Roger Cooper, ac wedi rhoi’r rhybudd olaf iddo i adael ei bartner.

Roedd hi’n gweithio fel rheolwr marchnata yn siopau Costco yng Nghaerdydd, Southampton, Bryste a Coventry.

Yn dilyn achos a barodd am wyth wythnos, fe glywodd y llys fod Roger Cooper wedi bod yn cynllunio i’w lladd am o leiaf mis, er mwyn ei hatal rhag datgelu’r berthynas.

Roedd hi’n un o dair o gariadon iddo.

Fe wnaeth y dynion gyfathrebu mewn negeseuon testun wedi’u hysgrifennu mewn côd Star Wars cyn defnyddio clorofform i ladd Sameena Imam.

Roedd aelodau o’i theulu yn Essex wedi cysylltu â’r heddlu ar ôl iddi fethu a dychwelyd adref dros y Nadolig.

Cafodd y ddau frawd eu harestio ar amheuaeth o lofruddio ar 7 Ionawr – wythnos cyn i’w chorff gael ei ddarganfod yng Nghaerlŷr.

Fe fydd Roger Cooper a David Cooper yn cael eu dedfrydu ddydd Mercher.