Mae prifysgolion Cymru yn “chwarae rhan allweddol yn tanio economi Cymru,” yn ôl adroddiad diweddaraf gan grŵp o arbenigwyr addysg.

Mae’r adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw gan  Viewforth Consulting yn cwmpasu effaith economaidd Prifysgolion Cymru ar y flwyddyn sy’n diweddu’n 2014.

Mae’n nodi fod Prifysgolion Cymru yn gyfrifol am greu bron 50,000 o swyddi Cymru. Mae hynny’n gyfwerth â 3.4% o gyfanswm cyflogaeth gweithleoedd Cymru yn 2013.

Maen nhw hefyd wedi cynhyrchu tua £2.4 biliwn o GYG (Gwerth Ychwanegol Gros) Cymru, sy’n cynnwys gwariant oddi ar y campws gan fyfyrwyr ac ymwelwyr.

Am hynny, mae’r adroddiad yn nodi fod y sector addysg uwch yng Nghymru yn un o’r diwydiannau mwyaf gwerthfawr, ac yn symbylu gweithgarwch economaidd ar lefel lleol a chenedlaethol.

‘Parhau i dyfu’

Fe gyhoeddodd Viewforth Consulting adroddiad blaenorol yn 2013, ac yn ôl Dr Ursula Kelly, un a fu’n arwain yr ymchwil: “Ers cyhoeddi ein hadroddiad cyntaf, gwelwn fod pwysigrwydd addysg uwch i economi Cymru wedi tyfu fwy fyth.”

Mae’n nodi fod pob rhan o Gymru yn elwa o “sgil-effeithiau gweithgarwch prifysgolion Cymru” – hyd yn oed os nad oes prifysgol o fewn yr ardal.

Mae’r adroddiad yn tanlinellu pwysigrwydd byd-eang prifysgolion Cymru hefyd, wrth iddyn nhw gynhyrchu 4.6% o holl allforion Cymru, sef £600m. Wrth ddenu ymwelwyr tramor i Brifysgolion Cymru – mae hynny’n ei dro yn “codi proffil y genedl dramor.”

‘Cyfranwyr economaidd pwysig’

Fe bwysleisiodd Dr Ursula Kelly fod yr “astudiaeth yn  tanlinellu’r ffaith fod prifysgolion Cymru nid yn unig o gryn bwys i Gymru yn cefnogi datblygiad economaidd trwy addysg ac ymchwil – ond eu bod hefyd yn gyfranwyr economaidd pwysig drwy gynhyrchu allbwn, swyddi a GYG.”

Fe groesawodd yr Athro Colin Riordan, Cadeirydd Prifysgolion Cymru ganfyddiadau’r adroddiad gan ddweud, “mae’n bwysig deall fod prifysgolion yn asedau.”

“Rwy’n falch fod casgliadau’r adroddiad heddiw yn dangos fod cyfraniad prifysgolion Cymru i sefyllfa economaidd ein cenedl wedi parhau i dyfu.”