Mae dros 3,000 o bobl wedi cael eu rhybuddio y gallan nhw fod wedi’u heintio â hepatitis B, C neu HIV ar ôl cael eu trin gan ddeintydd yng Nghaerdydd.

Cafodd Mark Roberts, sy’n ddeintydd profiadol o ardal y Sblot, ei atal o’i waith gan y Cyngor Deintyddiaeth Cyffredinol ym mis Chwefror am beidio â chydymffurfio â mesurau rheoli heintiau.

Roedd wedi bod yn ddeintydd yn Neintyddfa Heol y Sblot ers 26 o flynyddoedd.

Er bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhybuddio bod y risg yn isel, maen nhw wedi cysylltu â 3,245 o’i gleifion.

Ond fe gyfaddefodd cyfarwyddwr nyrsio’r bwrdd, Ruth Walker, fod miloedd o bobl eraill wedi cael eu trin gan Mark Roberts ers 1989 ond nad oedden nhw wedi cofrestru â’r ddeintyddfa erbyn hyn.

 

Defnyddio offer oedd bod cael eu taflu mwy nag unwaith

Fe wnaeth aelodau o staff y ddeintyddfa godi pryderon ar ôl gweld y deintydd yn defnyddio cetris anesthetig mwy nag unwaith ar fwy nag un claf, lle dylen nhw fod wedi cael eu taflu.

Gallai hyn fod wedi achosi i’w gleifion gael eu heintio â chlefydau feirysol yn y gwaed fel Hepatitis B, C a HIV ond mae’r awdurdodau wedi dweud bod y risg hwn yn un isel.

Nid yw’r deintyddion eraill yn y ddeintyddfa yn rhan o’r ymchwiliad a does dim cadarnhad eto bod rhywun wedi cael ei heintio gan un o’r firysau.

Yn ôl cyngor clinigol, nid yw Iechyd Cyhoeddus Cymru yn argymell i bob claf gael ei sgrinio am y firysau gan fod y risg yn “isel iawn”, heblaw bod ganddyn nhw “ffactorau” yn eu bywydau sy’n cynyddu’r risg o gael haint.

“Fodd bynnag, os oes gan gleifion bryderon o hyd ar ôl ffonio’r llinell gymorth, gellir trefnu prawf gwaed syml i roi tawelwch meddwl iddyn nhw,” meddai Meirion Evans, epidemiolegydd ymgynghorol i Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Rhif ffôn y llinell gymorth yw 0800 952 0055.