Mae Cymdeithas yr Iaith yn honni fod Is-ganghellor Prifysgol Bangor yn “osgoi atebolrwydd”, ac wedi canslo tri chyfarfod i drafod dyfodol Canolfan Bedwyr yn “fwriadol”.
Mae’r brifysgol yn bwriadu trosglwyddo rhai o swyddogaethau’r ganolfan ieithyddol i rannau eraill o’r brifysgol.
Anfonodd y Gymdeithas lythyr at yr is-ganghellor mis Hydref y llynedd i fynegi eu pryderon ynghylch cynlluniau Prifysgol Bangor ac i ofyn am gyfarfod i drafod y mater.
Ond mae’r ymgyrchwyr iaith yn dweud bod yr Athro Iwan Davies bellach wedi canslo tri chyfarfod gyda nhw i drafod y cynlluniau.
Trefnwyd y cyfarfod cyntaf ar Dachwedd 11, cyn cael ei aildrefnu ar gyfer Tachwedd 20. Cafodd y cyfarfod yna ei aildrefnu eto ar gyfer Ionawr 13, cyn cael ei ganslo unwaith eto.
‘Ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw sefyllfa’r pandemig’
Eglurodd llefarydd ar ran Prifysgol Bangor wrth golwg360 fod y penderfyniad i ohirio wedi ei wneud o ganlyniad i’r pandemig.
“Ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw sefyllfa’r pandemig, sydd yn esblygu’n barhaus, a sut y mae hynny’n effeithio ar gymuned a gweithgareddau’r Brifysgol, o ganlyniad, gohiriwyd cyfarfod gyda Chymdeithas yr Iaith i drafod Canolfan Bedwyr”, meddai’r llefarydd.
Ychwanegodd y llefarydd fod gan Brifysgol Bangor hanes hir o ragoriaeth mewn ymchwil a gwasanaethau sy’n ymwneud â’r Gymraeg a bod y brifysgol wedi cadarnhau ei hymrwymiad i Ganolfan Bedwyr.
“Rydym yn ehangu cylch gwaith Canolfan Bedwyr i gryfhau ymhellach ein cefnogaeth i’r Gymraeg ym mhob rhan o’r Brifysgol ac mae hyn yn ddatblygiad cyffrous.”
‘Rhywbeth od iawn ynghylch y sefyllfa’
Mae’r ganolfan ieithyddol “o bwys cenedlaethol a rhyngwladol”, meddai cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, Toni Schiavone.
“Mae’n gwbl arferol bod cyfarfodydd yn cael eu canslo bob hyn a hyn, ond mae canslo tri chyfarfod yn olynol yn awgrymu bod rhywbeth od iawn ynghylch y sefyllfa.
“Rydyn ni wedi bod yn ceisio cael cyfarfod gyda fe ers mis Hydref y llynedd, mae bellach yn fis Ionawr a dydyn ni’n dal heb gwrdd ag e.
“Yn fy marn i mae’n edrych yn debygol bod yr is-ganghellor wedi penderfynu gwneud hyn yn fwriadol, gan ei fod yn gwybod yn ei galon nad oes cyfiawnhad dros y cynlluniau hurt yma fyddai’n gymaint o ergyd i’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor a’r tu hwnt.
“Mae hyn yn edrych fel ymgais ar ei ran i osgoi atebolrwydd yn wyneb yr ymgyrch boblogaidd i achub y Ganolfan.”