Mae Gorwelion, cynllun cerddoriaeth BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, wedi cyhoeddi’r artistiaid fydd yn cymryd rhan yn ei thaith o amgylch Clybiau Cerddorol Cymru ar gyfer Wythnos Lleoliadau Annibynnol.

Bydd Gorwelion yn darlledu sesiynau o bump lleoliad yng Nghymru, rhwng Ionawr 25-29.

Mae’r rhain yn cynnwys Neuadd Ogwen ym Methesda, Galeri yng Nghaernarfon, a Le Public Space yng Nghasnewydd.

Ymhlith yr artistiaid sy’n perfformio sesiynau mae’r artist hip hop Mace the Great, y gantores R&B Faith, y band roc Those Damn Crows, a’r gantores canu gwlad Jodie Marie.

Bydd hefyd perfformiadau gan brif ganwr Gwilym, Ifan Pritchard, y deuawd roc Alffa, y deuawd benywaidd newydd Body Water, a’r artist electro pop Malan.

Bydd y sesiynau hyn gael eu darlledu ganol dydd bob dydd, gyda darllediadau arbennig o’r sesiynau ar draws BBC Radio Wales BBC Radio Cymru, ynghyd â 6Music gyda Tom Robinson.

“Cyfle i ddathlu popeth am ein map o leoliadau o amgylch Cymru”

Dywedodd Bethan Elfyn, Rheolwr Prosiect Gorwelion “Rydyn ni wedi bod yn gwylio’n ddiymadferth tra bod Covid-19 wedi cadw lleoliadau a theatrau ar gau, gan gadw cymunedau sydd angen ei gilydd ar wahân, gan ein cadw rhag gwylio, cefnogi a thyfu talent yng Nghymru, a’n cadw rhag y buddion iechyd, lles a thwf personol y mae cerddoriaeth yn dod inni gyd.

“Mae ‘Wythnos Lleoliadau Annibynnol’ yn gyfle i ddathlu popeth am ein map o leoliadau o amgylch Cymru, y cynhyrchwyr a’r hyrwyddwyr y tu ôl i’r lleoliadau, a’r dalent a fyddai fel rheol yn llenwi’r adeiladau gwag â bywyd.

“Mae’r daith yn ddathliad o’r hyn sydd gennym, yr hyn yr ydym yn ei golli, ac yn nod i’r dyfodol pan allwn ddod yn ôl i’r gymuned yr ydym wedi’i cholli. ”

“Mae’n bwysig bod yna rywle i gerddorion gael lle i ddechrau”

Wrth drafod Wythnos Lleoliadau Annibynnol, dywedodd Sam Dabb, rheolwr Le Public Space yng Nghasnewydd, a chynrychiolydd Cymru ar gyfer Music Venues Trust:

“Nid tafarn yn unig mohono, nid lleoliad cerdd yn unig mohono.

“Mae’n bwysig i’r ardal, dyma lle mae pobl yn cwrdd, ac yn cael rhywle i fod.

“Mae’n bwysig bod yna rywle i gerddorion gael lle i ddechrau, ond hefyd rhywle i chwarae cerddoriaeth, nid mond i’r rhai sydd eisiau bod yn boblogaidd, yn enfawr a theithio’r byd… yn syml, rhywle i chwarae a chlywed cerddoriaeth!”

Enwi Gruff Rhys yn llysgennad Cymru Wythnos Lleoliadau Annibynnol

Huw Bebb

“Rydyn ni’n uffernol o lwcus i gael Neuadd Ogwen yng ngogledd Cymru,” medd Rhys Mwyn am y lleoliad fydd yn cynnwys un o’r prif ddigwyddiadau