Mae’r canwr Gwilym Bowen Rhys yn dweud bod y we yn “allwedd” i ddarganfod siantis Cymraeg ac i ddatblygu traddodiad sydd eisoes yn bod yng Nghymru.

Fe fu’r canwr yn siarad â golwg360 ar ôl i Nathan Evans, postmon o’r Alban, gyhoeddi fideo ar y cyfryngau cymdeithasol ohono fe ei hun yn canu cyfres o ganeuon fel ‘Leave Her Johnny’, ‘The Scotsman’ a ‘The Wellerman’.

Arweiniodd hynny at greu hashnod #SeaShantyTikTok i bobol eraill gael postio fideos tebyg, ac fe aeth Gwilym Bowen Rhys a Gethin Griffiths ati i gyhoeddi eu fideo eu hunain yn canu ‘Aio Hogia Bach’.

Ers hynny, mae pobol eraill wedi bod yn postio’u fideos Cymraeg ar y ffrwd gan ddefnyddio’r hashnod #SeaShantyTikTok.

“Mae’n cŵl fod pobol yn licio caneuon fel ’na ac mae’n neis fod pobol yn mwynhau,” meddai.

“Gethin Griffiths, mêt fi, wnaeth gysylltu efo fi, fo sy’n harmoneiddio efo fi.

“Fo wnaeth ddeud, “Ti ffansi gneud un yn Gymraeg?”

“Mae’n rhyfedd faint mor boblogaidd ydi’r un gwreiddiol.

“Y tro cynta’ i fi weld yr un gwreiddiol, geshi neges gen ffrind o Sbaen oedd wedi gyrru fo i fi!”

Beth yw sianti?

Caneuon morwrol yw’r math mwyaf cyffredin o ganeuon sianti ac ymhlith y rhai mwyaf poblogaidd yn y Gymraeg mae ‘Fflat Huw Puw’.

Ymhlith y rhai eraill sy’n boblogaidd yn y Gymraeg mae ‘Sianti Gymraeg’ sy’n disgrifio taith o Fangor i America, ‘Llongau Caernarfon’ a ‘Santiana’, a rheiny yn eiddo’r bardd J Glyn Davies oedd yn byw yn Lerpwl.

“Roedd o efo teulu ym Mhen Llŷn ac wedyn roedd o wedi tyfu i fyny yng nghanol morwyr Pen Llŷn a morwyr Lerpwl a chlywed y siantis yma,” meddai Gwilym Bowen Rhys.

“A wnaeth o synnu bo ’na ddim lot o siantis Cymraeg.

“Be’ oedd o’n gweld oedd bod y Cymry’n mynd i Lerpwl ac yn gweithio ar y llongau, ac yn pigo i fyny lot o siantis Saesneg, hyd yn oed rhai yn Norwyeg achos roedd lot o forwyr o Norwy ar y llongau yma.

“Roeddan nhw jyst yn pigo’r siantis yma i fyny, hyd yn oed os doeddan nhw ddim yn gwybod be’ oedd y geiriau’n golygu.

“Mae’n debyg fod y Cymry yn harmoneiddio’n fwy na phobol o wledydd eraill achos bod y Cymry’n licio harmoneiddio beth bynnag, yn y capel a ballu.”

Yn ôl Gwilym Bowen Rhys, dull o ganu yw sianti a does dim rhaid eu bod nhw’n ganeuon sy’n ymwneud â’r môr.

“O ran poblogrwydd y sianti, dwi’n meddwl fod o rywbeth i wneud efo’r rhythm, yr harmoni, symlrwydd y gân a faint o amrwd ydi’r sŵn.

“Beth sy’n ddiddorol ydi, os yw rhywun yn clywed y gair ‘sianti’, mae rhywun yn meddwl am ganeuon y môr ond un math o sianti ydi sianti’r môr.

“Beth ydi sianti, mae o’n dod o’r gair chant ac mae o’n gysylltiedig efo unrhyw waith corfforol oedd efo elfen o rythm neu elfen ailadroddus roedd mwy nag un person fel arfer yn ei wneud ar yr un pryd.”

Siantis poblogaidd heb gysylltiad â’r môr

Mae un o’r siantis mwyaf poblogaidd yn y Gymraeg sydd heb gysylltiad â’r môr yn disgrifio’r weithred o lifio coed.

“Cân llifio am lif mawr, mawr, mawr i lifio coed anferth ac roedd gen ti berson ar bob ochr i’r llif ’ma ac mae ’na sianti i fynd efo hwnna,” meddai.

“Cân rythmig yw hi sy’n mynd efo rhythm y gwaith.”

Nid dim ond yng Nghymru mae siantis o’r math yma’n boblogaidd chwaith, meddai.

“Mae math arall o sianti wedyn, un yn yr Alban sy’n ddiddorol iawn, iawn sef beth maen nhw’n ei alw’n ‘walking songs‘.

“Roedd menywod yn ‘walking the tweed’, sef y broses sydd ei hangen i wneud tweed, lle wyt ti’n gorfod rwbio tweed mewn wrin.

“Yn amlwg heddiw, mae ’na beiriannau’n ei wneud o ond ers talwm, roedd menywod yn sefyll ac yn pasio fo rownd mewn rhythm.

“Mae o i gyd yn iaith Gaeleg yr Alban, y sianti yma, ac mae o’n debyg iawn i sianti cwestiwn ac ateb lle mae un yn dweud llinell a dyma pawb yn ateb.

“Lle mae’r sianti wedi tarddu o’r gwaith yma, er bod y gwaith ei hun wedi diflannu, mae’r caneuon yn cyd-fynd efo fo wedi parhau.”

Ydy siantis Cymraeg yn dal yn boblogaidd heddiw?

Yn ôl Gwilym Bowen Rhys, mae poblogrwydd ‘Fflat Huw Puw’ sy’n cael ei chanu’n eang yng Nghymru heddiw, yn awgrymu bod y siantis Cymraeg yn fyw ac yn iach o hyd.

“Mae gen ti rai caneuon sydd yn saff, os wyt ti mewn pyb, mae’n un o’r caneuon, gobeithio, mae pobol yn ei gwybod ac mae hi i fyny yna efo ‘Sosban Fach’ a ‘Calon Lân’,” meddai.

“Mae hynna, mewn ffordd, yn profi bod y caneuon yma wedi parhau’n boblogaidd.

“Dw i ddim yn gwybod pam rheiny yn benodol.

“Dydi’r gân wnaethon ni ar y fideo ddim mor adnabyddus ond mae’n gân grêt a dwi’n dychmygu fydd pobol ar TikTok isio gwybod o le mae’r gân wedi dod.”

Er bod siantis yn dal yn boblogaidd ar lawr gwlad yng Nghymru, ychydig iawn o ddigwyddiadau penodol sydd gennym i ddathlu’r traddodiad sydd wedi cael ei blethu’n rhan o draddodiad canu gwerin ehangach Cymru.

“Dw i wedi canu mewn gŵyl yng Nghernyw unwaith, yn Falmouth,” meddai.

“Roedd hynna’n ffantastig, mae gen ti open mics ac mae gen ti gorau sydd jyst yn gwneud siantis.

“Wrth gwrs, mae gan Gernyw draddodiad morwrol mawr ac mae ’na bendant sîn yn fan’na.

“Does dim ‘sîn’ yng Nghymru ond mae poblogrwydd y caneuon yn bendant yn parhau.”

Adfywio neu ddatblygu’r traddodiad

Gyda blas ar y traddodiad wedi cyrraedd un o lwyfannau mwyaf newydd y cyfryngau cymdeithasol, a oes gobaith o ddefnyddio TikTok i adfywio neu ddatblygu siantis Cymraeg?

“Mae’r we yn gyffredinol yn allwedd i ddarganfod pethau,” meddai Gwilym Bowen Rhys.

“Dim ots be’ ydi dy ddiddordeb di, mae YouTube er enghraifft yn allwedd i gael gafael ar unrhyw beth ’sgen ti ddiddordeb yno fo.

“Mae’n siŵr fod gen ti technophobes 90 oed, dwi’n siŵr wnei di ffeindio fideo YouTube i ddiddori nhw!

“Mae ’na rywbeth i bawb ar y we ac mae pethau fatha TikTok yn dwlsyn i ennyn diddordeb mewn pethau ac mae’n grêt ennyn diddordeb pobol yn ein traddodiadau cerddorol ni.

“Os ydi TikTok wedi ennyn diddordeb pobol, gorau oll.”