Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, wedi atal coridorau teithio yng Nghymru am y tro er mwyn ceisio atal amrywiolyn newydd y coronafeirws rhag dod i mewn i’r wlad.

Bydd y coridorau’n cael eu hatal o 4 o’r gloch fore Llun (Ionawr 18) tan o leiaf Chwefror 15 wrth i holl wledydd Prydain gymryd camau ar y cyd.

Mae’r newidiadau’n golygu y bydd angen prawf ar bawb cyn gadael y wlad, a mynd i gwarantîn am ddeng niwrnod ar ôl dod yn ôl.

Bydd y llywodraeth hefyd yn tynhau pwy fydd yn cael eu heithrio o’r cyfyngiadau hyn.

‘Angen cymryd camau ychwanegol’

“Yn anffodus, rydym wedi gweld rhai amrywolion pryderus newydd o’r coronafeirws yn ymddangos o amgylch y byd ac mae angen i ni gymryd camau ychwanegol i warchod pobol yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig rhag y ffurfiau newydd hyn ar y feirws,” meddai Mark Drakeford.

“Mae atal coridorau teithio’n golygu y bydd rhaid i’r mwyafrif o bobol sy’n teithio dramor gwblhau prawf cyn gadael a mynd i gwarantîn wrth iddyn nhw ddychwelyd i Gymru i sicrhau nad ydyn nhw’n dod â’r coronafeirws adref gyda nhw.

“Rydym yn dechrau gweld achosion o’r coronafeirws yn gostwng yng Nghymru diolch i waith caled ac aberth pawb – gyda’n rhaglen frechu’n magu momentwm gwirioneddol, rydym eisiau gwneud popeth allwn ni i gadw Cymru’n ddiogel.

“Dw i’n falch ein bod ni wedi gallu cydweithio â Llywodraeth y Deyrnas Unedig a phrif weinidogion Gogledd Iwerddon a’r Alban i gytuno ar ddull ar y cyd.”