Mae golwg360 ar ddeall bod y Llyfrgell Genedlaethol ar fin lansio ymgynghoriad i’r posibiliad o dorri swyddi.

Mae tua 225 yn gweithio i’r Llyfrgell, ac mae’r sefydliad eisoes wedi rhybuddio y byddai’n rhaid cwtogi 30 o swyddi cyfwerth ag amser llawn dros y 12 mis nesa’ er mwyn sicrhau cyllideb gytbwys.

Bellach mae’n ymddangos ei bod am gymryd cam yn agosach at hynny, gan gynnal ymgynghoriad 30 diwrnod o hyd.

Heb ystyried niferodd y staff rhan amser, byddai’r fath gwtogiad yn gyfystyr â thoriad o oddeutu 13% i weithlu’r Llyfrgell.

Dros amser mae niferoedd staff eisoes wedi disgyn o 300 i’r lefel bresennol.

Y sefyllfa

Ym mis Tachwedd y llynedd fe wnaeth Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr y Llyfrgell Genedlaethol, ddisgrifio cyflwr ariannol y sefydliad, a’i pherthynas â Llywodraeth Cymru fel sefyllfa “hollol anghynaladwy”.

Roedd hyn yn dilyn adroddiad annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i sefyllfa’r Llyfrgell cyn argyfwng y coronafeirws.

Mae’r adroddiad yn dweud bod incwm y Llyfrgell wedi cwympo 40% – mewn termau real – rhwng 2008 a 2019.

Yn siarad gerbron Pwyllgor Diwylliant ym mis Rhagfyr dywedodd y Prif Weithredwr bod dyfodol y llyfrgell yn ddibynnol ar barodrwydd y Llywodraeth i roi “sylw brys” i ofynion ariannol y sefydliad.

Yn siarad yn yr un sesiwn dywedodd David Michael, Dirprwy Brif Weithredwr y Llyfrgell, y byddai angen “o leiaf £1.5m yn rhagor ar gyfer refeniw gwaelodol” er mwyn osgoi gorfod gwneud toriadau swyddi.

Y berthynas â Dafydd Êl

Mae Dirprwy Weinidog Diwylliant, Dafydd Elis Thomas wedi dweud bod y Llyfrgell Genedlaethol heb gael ei thrin yn “annheg”.

Ac yn siarad gerbron pwyllgor Senedd fore heddiw awgrymodd bod angen i’r Llyfrgell newid y ffordd mae’n gweithredu, ac ymdrechu i efelychu yr Ardd Fotaneg yn Sir Gaerfyrddin yn hyn o beth.

Mae golwg360 wedi gofyn i’r Llyfrgell Genedlaethol am sylw.

 

Dafydd Elis-Thomas yn chwerthin

‘Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod pwysigrwydd diwylliant a’r celfyddydau’

Dafydd Elis-Thomas yn trafod sefyllfa’r sector yn ystod argyfwng Covid

Sefyllfa ariannol y Llyfrgell Genedlaethol yn “hollol anghynaladwy”

Prif Weithredwr y Llyfrgell, Pedr ap Llwyd, yn taflu goleuni ar y sefyllfa gerbron pwyllgor Senedd