Drwy addasu ac arallgyfeirio mae Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, Sian Lewis, yn hyderus y bydd y mudiad yn goroesi’r cyfnod “mwyaf heriol” yn eu hanes.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae’r Urdd wedi colli bron i hanner ei gweithlu, yn rhagweld colled incwm o oddeutu £14m, ac yn wynebu dyled o £2m.

Wrth i’r mudiad geisio ailgydio cyn ei chanmlwyddiant, mae Gwersyll yr Urdd Glan Llyn, mewn cydweithrediad a Chyngor Gwynedd, yn parhau i chwarae eu rhan yn y frwydr yn erbyn Covid-19 drwy gynnig gofal i gleifion sydd yn gwella o’r feirws.

“Mi oedd ’na gyfnod o bryder mawr, ond ar ôl cael cefnogaeth i gadw ein pennau uwchben y dŵr yn ystod y cyfnod yma, mi yden ni’n hyderus y gwnawn ni oroesi,” meddai Sian Lewis wrth golwg360.

“Er bod y rhagolygon ariannol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf yn dangos colledion, a gostyngiad incwm sylweddol, mi yden ni’n ffyddiog bod y mesurau sydd mewn lle gan y pwyllgor gwaith, yr ymddiriedolwyr, a’r uwch dim rheoli, yn golygu ein bod ni’n gallu goroesi, dathlu a chynnal y gwasanaethau pwysig yma i blant a phobol ifanc Cymru.

“Mi oedd gyda ni ychydig o arian wrth gefn yng nghronfa’r Urdd ar gyfer argyfwng, ac yn anffodus bu rhaid i ni fynd i mewn i hwnnw, a’i ddefnyddio.”

‘Osgoi sefyllfa drychinebus’

Cyn y pandemig dechreuwyd y gwaith o uwchraddio Gwersylloedd Llangrannog a Glan Llyn ac o ganlyniad i gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig mae’r gwaith yma wedi gallu parhau.

“Oni bai am gefnogaeth sylweddol gan Lywodraeth Cymru bydden ni wedi bod mewn sefyllfa drychinebus.

“Yn y tymor byr ni fyddai modd i ni ddod nôl i le hoffem ni fod heb y gefnogaeth yna, ond yn yr hirdymor mi yden ni yn awyddus i ddangos ein bod ni yn flaenllaw fel cwmni – ac yn fusnes sydd yn gallu cynnal ei hunan tu hwnt i gyfnod Covid.

“Ond mae rhaid bod yn onest, mae prinder ariannol gyda ni ac mae’r blynyddoedd nesaf yn mynd i fod yn heriol.”

Yn ôl Sian Lewis mi oedd yr Urdd mewn sefyllfa ariannol “gadarn iawn” cyn Covid, a dim ond 19% o’u cyllid oedd yn dod o’r pwrs cyhoeddus.

Roedd trosiad blynyddol y mudiad bron yn £12 miliwn, ac roedd £9 miliwn o’r trosiant hwnnw yn dod o weithgareddau mewnol.

Gweinidog y Gymraeg: y Llywodraeth yn agored i gynnig rhagor o help i’r Urdd

“Wnawn ni gadw’n meddyliau ar agor o ran beth sy’n bosibl,” meddai Eluned Morgan

 

Colli hanner gweithlu’r Urdd

Eglurodd Sian Lewis fod hi’n amlwg ers yn gynnar iawn nad oedd dewis ond diswyddo bron i hanner y gweithlu.

“Yn syth ar ôl y cyhoeddiad rhoddwyd tri chwarter o’n gweithwyr ar ffyrlo er mwyn arbed costau, roedd yna ymgynghoriad cenedlaethol ym mis Gorffennaf, ac ail strwythuro cenedlaethol ym mis Medi.”

Erbyn hyn, dim ond 165 sydd ar ôl o’r 328 oedd ar un pryd yn gweithio i’r mudiad.

“Roedd cyflogau staff yr Urdd yn bron i £6 miliwn y flwyddyn, ac o ystyried ein bod ni ond yn mynd i greu ryw £1 miliwn o incwm eleni doedd dim arian yn y pot, nag yn y pot wrth gefn, i gynnal a chadw’r staff.

“Does dim modd i unrhyw sefydliad oroesi hynny heb wneud toriadau, ond does dim dwywaith y bydd modd i’n gweithlu barhau i gynnal y safon uchaf o waith. Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi profi brwdfrydedd y staff i wneud hynny, a phawb yn ysu i ddod nôl a chynnig y cyfleoedd yna.

“Ond rhaid cydnabod y bydd yna gyfyngiadau ar sut byddem ni’n rhedeg rhai o’n gwasanaethau ar hyd a lled Cymru o ganlyniad i golli staff. Wrth edrych tua’r dyfodol rydym yn edrych sut y gallem ni ail gydio, a’r flaenoriaeth yw cynnig yr un gwasanaeth yr oedden ni’n arfer i neud.”

Er y diswyddiadau mae’r Urdd wedi cadw’r adran brentisiaethau i fynd er mwyn meithrin gweithlu “ifanc, hyderus a dwyieithog”, a bellach mae 80 o bobol ifanc yn rhan o’r cynllun hwnnw.

Gwersylloedd yn arallgyfeirio

Mae Gwersylloedd yr Urdd yn parhau i fod ar gau, ac yn wynebu gostyngiad incwm misol o £500,000 y mis oherwydd y coronafeirws.

Er nad oes modd croesawu ysgolion nag ymwelwyr ar hyn o bryd, eglurodd Sian Lewis fod y gwersylloedd wedi parhau i gynnal gwasanaethau ar y cyd â sefydliadau eraill.

“Mae ’na waith pwysig wedi parhau i ddigwydd yn y gwersylloedd,” meddai.

“Mae Glan Llyn, ar y cyd â Chyngor Gwynedd, yn cael ei drawsnewid i gynnig gwasanaeth gofal i gleifion sydd yn dod dros Covid, ac mi yden ni’n rhagweld ein bod ni’n mynd i gael cleifion yn y gwersyll yn y dyfodol agos.

“Ar ôl meithrin perthynas agos iawn gyda Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion mae Llangrannog wedi arallgyfeirio drwy gefnogi plant a phobol ifanc fregus y sir gan gael effaith cadarnhaol ar eu bywydau nhw.”

Mae Gwersyll yr Urdd Caerdydd hefyd wedi ei ddefnyddio yn ddiweddar fel stiwdio deledu.

Y gobaith yw bydd modd i’r gwersylloedd ailagor fis Ebrill, ond mae Sian Lewis yn cydnabod ei fod hi’n debygol y bydd y gwersylloedd yn parhau ar gau tan fis Medi.

Trystan Ellis-Morris a Heledd Cynwal yn stiwdio Eisteddfod T
Trystan Ellis-Morris a Heledd Cynwal yn stiwdio Eisteddfod T

Ailgydio cyn y canmlwyddiant

Flwyddyn nesaf bydd yr Urdd yn dathlu ei chanmlwyddiant. Fel rhan o’r dathliadau’r gobaith yw cynnal Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Sir Ddinbych, a hynny ddwy flynedd ar ôl iddi gael ei gohirio yn wreiddiol.

“Yr awydd gennym ni gyd ydy ailadeiladu’r Urdd i le roeddem cyn Covid erbyn ein canmlwyddiant.

“Er ein bod ni wedi’n siomi o beidio gallu cynnal Eisteddfod yr Urdd draddodiadol y llynedd nac eleni, mae’n bwysig nodi fod llwyddiant Eisteddfod T wedi bod yn enfawr ac y bydd Eisteddfod T hyd yn oed mwy blaengar eleni.”

Roedd 6,000 o blant a phobol ifanc yn rhan o Eisteddfod T llynedd, a darlledwyd 25 awr o gynnwys yr Eisteddfod rithiol ar S4C.

“Gyda chefnogaeth y gymuned leol [yn Ninbych], sydd wedi gweithio mor galed i godi arian ac ymwybyddiaeth, gallaf sicrhau nad ydy’r Eisteddfod ei hun mewn perygl o bell ffordd. Mae wedi bod yn gyfnod i ni arallgyfeirio, a gweld pa elfennau llwyddiannus o’r Eisteddfod T y gallwn blethu fewn i’r Eisteddfod draddodiadol pan fydden ni’n ailgydio yn 2022.”

Yn ogystal â chynnal Eisteddfod T mae’r Urdd hefyd wedi ehangu ar eu cysylltiadau rhyngwladol yn ystod y cyfnod gan gydweithio a Phrifysgol Alabama a phrosiect ieuenctid yn Iwerddon.

Bu’r Urdd hefyd yn cydweithio yn ddiweddar a Chymdeithas Bel Droed Cymru ar ymgyrch ‘Het i Helpu’.

“Fel mudiad mi oedd hi’n fraint cydweithio gyda’r Gymdeithas Bêl-droed, mae’r ymgyrch wedi dangos y gefnogaeth i’r Urdd yn ein cymunedau ni ar draws Cymru ac wedi codi ein calon ni fel mudiad, a hynny mewn cyfnod caled iawn.

“Dw i’n hyderus y gwnawn ni oroesi, does dim dwywaith am hynny, mi ydem ni wedi gallu arallgyfeirio llawer o’n gwasanaethau ni ac mae’n rhaid bod yn hollol onest fod yna waith caled o’n blaen ni.

“Drwy stopio’r cloc mae’r cyfnod yma wedi dangos i ni fel staff a phawb arall bod gwerth enfawr i’r Urdd.

“Mi yden ni nawr yn dechrau symud ymlaen a chynllunio’n ofalus er mwyn cynnig cyfleoedd i’n haelodau unwaith eto, nid yn unig yn y blynyddoedd i ddod, ond wrth symud i ganrif newydd o wasanaeth yn 2022.”