Mae’r heddlu’n ymchwilio wedi damwain ffordd ddifrifol yn y brifddinas yn hwyr neithiwr.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad ar Ffordd Penarth, ger Taff Embankment, lle’r oedd mwy nag un cerbyd wedi bod mewn gwrthdrawiad.

Fe fu’r ffordd ar gau i’r ddau gyfeiriad am gyfnod, ac roedd gyrwyr yn cael eu cynghori i osgoi’r ardal. Mae’r ffordd bellach wedi ail-agor.