Mae Comisiynydd Heddlu’r Gogledd wedi dweud wrth golwg360 ei fod e am weld dirwyon o hyd at £250 yn cael eu rhoi i bobol sy’n torri rheolau’r coronafeirws.

Ar hyn o bryd, mae’r mwyafrif yn derbyn dirwy sy’n cyfateb i Hysbysiad Cosb Benodedig o £60 ond yn ôl Arfon Jones, dydy hynny ddim yn ddigon o “deterrent” i atal pobol rhag troseddu eto.

Daw ei sylwadau yn dilyn penwythnos “prysur iawn” i Heddlu’r Gogledd, wrth iddyn nhw symud pobol sydd wedi bod yn teithio dros y ffin o Loegr er gwaetha’r cyfnod clo sydd mewn grym ers Rhagfyr 20 sy’n atal pobol rhag teithio oni bai bod rhaid.

Ers dechrau’r pandemig, mae gan yr heddlu bedwar cam er mwyn mynd i’r afael â phobol – ymgysylltu, addysgu, annog a gorfodi.

Yn ôl Arfon Jones, mae’n bryd i’r heddlu ddilyn mwy o gamau gorfodi.

“Y pedwar ‘E’ ’dan ni wedi bod yn eu defnyddio – ‘engage’, ‘educate’, ‘encourage’ ac ‘enforce’ – ers deg mis rŵan,” meddai.

“Mae’n anodd credu fod pobol ddim yn gwybod be’ ydi’r rheoliadau erbyn rwan.”

Gosod dirwyon

Y ddirwy ar gyfer torri’r rheolau ar hyn o bryd yw £60, sef Hysbysiad Cosb Benodedig, ond fe all godi i hyd at £1,900 i aildroseddwyr.

“Mi gafon ni drafodaeth efo Llywodraeth Cymru’n gynnar iawn ynglyn a beth ddylsai’r ddirwy gynta’ fod ac roeddan ni o’r farn ddylsai hi fod yn uwch na 60 os oedd hi am fod yn deterrent,” meddai wedyn.

“Ond ddaru Llywodraeth Cymru benderfynu mai £60 fysa fo, so mae o’n cynyddu efo troseddau wedyn.

“Dydw i ddim yn meddwl fod o’n ddigon o deterrent i bobol, a fyswn i’n licio gweld o rywle rhwng £100 a £250.

“Mae’n dibynnu ar allu pobol i dalu wedyn.

“Efo unrhyw ddirwy, os oes gen bobol y gallu i dalu, mae o’n llai o deterrent.

“Os ydach chi’n cael tocyn fixed penalty, mae gennoch chi’r hawl i fynd i’r llys ynadon i ddelio efo’r mater yn y llys ynadon.

“Fysa’r llys ynadon wedyn yn edrych ar allu pobol i dalu ac yn eu cosbi nhw mewn ffordd wahanol, hwyrach.

“Mae hynna i fyny i’r unigolyn sydd wedi cael tocyn, un ai i’w dalu fo neu fynd o flaen llys ynadon.”

Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys yn cytuno

Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys, wedi dweud wrth golwg360 ei fod e’n cytuno â sylwadau Arfon Jones.

“[Mae] yn broblem i ni hefyd, yn Sir Benfro a Bannau Brycheiniog,” meddai.

“Ardal Heddlu Dyfed-Powys oedd wedi rhoi allan y fwyaf o ddirwyon yn ystod y cyfnod clo cyntaf a dal i weithredu.

“Dw i’n rhannu yr un safbwynt ag Arfon.”