Mae Gruff Rhys wedi’i enwi’n llysgennad Cymru yn Wythnos Lleoliadau Annibynnol.

Am y tro cyntaf yn ei hanes, bydd Wythnos Lleoliadau Annibynnol eleni yn cael ei chynrychioli gan bedwar llysgennad – un ar gyfer pob un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig.

Bydd y llysgenhadon yn hyrwyddo lleoliadau annibynnol, a’u cymunedau, yn eu gwledydd perthnasol ar gyfer Wythnos Lleoliadau Annibynnol, sy’n cael ei chynnal rhwng Ionawr 25-31.

Ac fel rhan o’r wythnos, bydd Gruff Rhys yn curadu ac yn perfformio yng ngŵyl rithiol Ara Deg yn Neuadd Ogwen, Bethesda.

Mae Gruff Rhys wedi bod yn rhan flaenllaw o fywyd cerddorol Cymru ers dros 30 o flynyddoedd gan ffurfio ei fand cyntaf, Ffa Coffi Pawb, yn 1986, cyn mynd yn ei flaen i gael llwyddiant rhyngwladol gyda’r Super Furry Animals.

“Ymwneud â phobol, nid yr adeiladau eu hunain”

“Fel cerddor sy’n teithio, mae fy ngwaith yn gwbl gysylltiedig â lleoliadau annibynnol. Mae’n ymwneud â phobol, nid yr adeiladau eu hunain,” meddai Gruff Rhys.

“Mae’n ymwneud â’r egni a’r brwdfrydedd mae cefnogwyr cerddoriaeth wedi’u creu mewn trefi a dinasoedd a phentrefi, felly mae angen inni gynnig ffordd i’r bobl hynny leisio eu barn.

“Mae artistiaid sy’n teithio yn dibynnu’n gyfan gwbl ar frwdfrydedd hyrwyddwyr a lleoliadau annibynnol.

“Y gwir amdani yw bod cerddoriaeth yn angerdd gydol oes i’r rhan fwyaf o bobl, ond yn anaml iawn y gall cantorion ennill bywoliaeth lawn ohoni, felly mae cerddoriaeth yn bodoli diolch i angerdd pobl i wrando ar gerddoriaeth, ei rhannu a rhoi llwyfan i gerddoriaeth newydd.

“Mae lleoliadau annibynnol yn cadw’r meddylfryd hynny, gan ei gwneud hi’n bosib i gerddorion chwarae – mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n rhan o hyn yn ei gwneud hi allan o gariad.

“Mae’r lleoliadau annibynnol hynny’n creu’r amgylchiadau sy’n ei gwneud hi’n bosib i bopeth arall ddigwydd ym maes cerddoriaeth.”

79 o leoliadau mewn 53 o bentrefi, trefi a dinasoedd

Yn hanesyddol, mae cannoedd o leoliadau ledled y Deyrnas Unedig yn cymryd rhan yn Wythnos Lleoliadau Annibynnol.

Ond y flwyddyn hon maen nhw wedi gorfod addasu’r ffordd y gellir cyrchu sioeau drwy gydol yr wythnos, gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau digidol megis  sesiynau trafod ag artistiaid, labeli, hyrwyddwyr a phobol sy’n mynd i gyngherddau.

Bydd hefyd cyfle i wrando ar albymau, ffrydiau byw a recordiwyd o flaen llawn, comedïau cerddorol a chwisiau.

Hyd yn hyn eleni, mae 79 o leoliadau mewn 53 o bentrefi, trefi a dinasoedd gwahanol wedi ymrwymo i gymryd rhan.

Bydd y gweithgareddau sy’n cael eu cynnal ar gyfer rhaglen 2021 yn cael eu cyhoeddi yn yr wythnosau i ddod.

Dylanwad lleoliadau annibynnol “heb newid rhyw lawer”

Mae Rhys Mwyn yn ddyn sydd wedi elwa a gwneud defnydd mawr o leoliadau annibynnol fel cerddor, trefnydd gigs, rheolwr a ffan cerddoriaeth.

Ond mae’n dweud nad yw dylanwad a’r gwasanaeth mae lleoliadau annibynnol yn ei gynnig “heb newid rhyw lawer” dros y blynyddoedd.

“Pan ti’n mynd yn ôl i’r 80au, y lleoliad cyntaf i ni chwarae gyda’r Anrhefn oedd Stow Hill Labour Club, ac roedd y nosweithiau’n cael eu trefnu gan griw o’r enw Cheap Sweaty Fun Promotions,” meddai wrth golwg360.

“Roedd bandiau’n chwarae ar yr un circuit, ac roedd gan y criwiau a’r lleoliadau yma i gyd yr un ethos – hollol annibynnol, i gyd wedi eu dylanwadu gan punk rock, DIY (do it yourself).

“A dwi ddim yn meddwl bod o wedi newid, mae’r un ethos yn dal i fodoli, mae pobol sy’n rhedeg y lleoliadau yma’n caru cerddoriaeth ac yn llwyddo i grafu bywoliaeth allan ohono.”

“Uffernol o lwcus i gael Neuadd Ogwen yn Ogledd Cymru”

Ac mae Rhys Mwyn yn credu ein bod yn “uffernol o lwcus i gael Neuadd Ogwen yng ngogledd Cymru.”

“Mae Neuadd Ogwen yn un o’r llefydd amlwg yn roc a rôl Cymru, fel Clwb Ifor Bach,” meddai.

“Mae o’n lleoliad da, ethos cymunedol, a gan mai cwpwl o gannoedd mae o’n dal ti’n cael teimlad bod chdi mewn gig go iawn, ti’n gallu pacio’r lle allan.

“Mi faswn i’n dadlau ’na rheini ydi’r gigs gorau, mae stadium rock yn dueddol o golli’r agosatrwydd yna.

“Rydan ni’n uffernol o lwcus i gael Neuadd Ogwen yn Ogledd Cymru.”