Mae staff mudiadau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg yn ymuno mewn her fawr dros wyliau’r Nadolig i gyfrannu 50 awr o leisiau at Common Voice Cymraeg, sy’n datblygu’r Gymraeg ym maes technoleg glyfar.

Bydd staff ac aelodau yr Urdd, Comisiynydd y Gymraeg, yr Eisteddfod Genedlaethol, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Nant Gwrtheyrn, Clybiau Ffermwyr Ifanc, Mudiad Meithrin, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, S4C, Llywodraeth Cymru a’r Mentrau Iaith i gyd yn cyfrannu drwy recordio o leiaf 5 clip neu ddilysu o leiaf 5 clip ar wefan Common Voice Cymraeg fel rhan o her ‘Defnyddia Dy Lais’.

Un o’r rhai fydd yn cyfrannu yw Nia ap Tegwyn, Uwch Swyddog Iaith Menter Gorllewin Sir Gâr. Dywedodd: “Fel gweithwyr sy’n hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg mae’n bwysig ac yn fraint i gyfrannu at Common Voice, gan arwain drwy esiampl er mwyn sicrhau bod dyfeisiadau’n gallu deall a chyfathrebu yn y Gymraeg yn y dyfodol.”

Er mwyn cyrraedd y nod mae’r mudiadau yn gofyn i bobl Cymru, o bob oed, gymryd rhan yn yr her drwy recordio neu dilysu lleisiau yn adrodd brawddegau Cymraeg.

Bwriad Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr Prifysgol Bangor, Meddal.com a chwmni Mozilla yw defnyddio’r lleisiau hyn i greu cronfa ddata rhydd fydd yn galluogi cwmnïau bach a mawr ym maes technolegau clyfar i gyflwyno’r Gymraeg i’r dyfeisiadau technoleg clyfar. Yn ogystal â chynorthwyo is-deitlo awtomatig yn Gymraeg, bydd y gronfa ddata yn galluogi datblygiad pellach yn nhechnolegau adnabod llais, megis ap Macsen, i ddeall ac ymateb i mwy o gwestiynau yn Gymraeg.

Mae ap Macsen yn gynorthwyydd personol Cymraeg a grëwyd gan Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr Prifysgol Bangor. Ar hyn o bryd mae’r ap yn gallu adrodd y newyddion, y tywydd, chwarae cerddoriaeth Gymraeg a mwy ar alw – i gyd diolch i’r cynllun Common Voice.

Dywed Rhoslyn Prys o Meddal.com;

“Mae wedi dod yn amlwg eleni mor fawr yw ein dibyniaeth ar dechnoleg, gyda’r defnydd o dechnolegau clyfar yn dod yn ran ymarferol ym mywydau pob dydd nifer ohonom. Dyma gyfle i ni gyd fel Cymry Cymraeg i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i gael lle yn y byd technoleg. Drwy wneud un peth bach gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth mawr i le’r Gymraeg mewn technolegau adnabod lleferydd.”

Er mwyn cymryd rhan, ewch i wefan commonvoice.mozilla.org/cy a gallwch ddechrau recordio neu ddilysu mewn eiliadau a chofiwch rannu eich profiad ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #DefnyddiaDyLais.