Mae Dr Dafydd Roberts, Ceidwad Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, wedi cyhoeddi ei ymddeoliad ar ôl 40 mlynedd.

Dechreuodd ei yrfa gydag Amgueddfa Cymru ym mis Hydref 1980 yn Adran Amaeth a Bywyd Gwerin, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, ar ôl cyfnod yn astudio hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cafodd ei benodi yn Gymhorthydd Ymchwil gyda gofal dros Amgueddfa Lechi Cymru, neu’r Amgueddfa Chwareli Llechi Gogledd Cymru bryd hynny, yn 1981.

Wedi iddo gwblhau ei ddoethuriaeth, daeth yn Geidwad Amgueddfa’r Gogledd ym 1988 – swydd “berffaith” iddo, meddai.

“Pobl ardaloedd y chwareli yw’r bobl orau yn y byd”

“Mae fy nghysylltiad â’r diwydiant llechi’n mynd yn ôl sawl cenhedlaeth,” meddai Dr Dafydd Roberts.

“Roedd fy nhad, fy nhaid a’m hen-daid yn chwarelwyr felly mae’r diwydiant – ac yn arbennig ei bobl – wedi bod o ddiddordeb mawr i mi erioed.

“Pobl ardaloedd y chwareli yw’r bobl orau yn y byd yn fy marn i, felly roedd y cyfle i weithio yn Amgueddfa Lechi Cymru yn berffaith i mi!”

Staff yr amgueddfa yn yr 80au gyda Dr Dafydd Roberts yn y canol

Datblygiadau cyffrous

Yn ystod ei gyfnod yn gweithio i’r amgueddfa, mae Dr Dafydd Roberts wedi llywio sawl datblygiad cyffrous.

Yn eu plith, oedd ailddatblygu’r amgueddfa ym 1998, diolch i gais llwyddiannus am grant o £1.6 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Roedd hynny’n cynnwys symud teras o dai chwarelwyr i’r amgueddfa, ac atgyweirio’r rheilffordd fach Inclein Vivian (V2).

Yn dilyn lansio mynediad am ddim yn 2001, tyfodd nifer yr ymwelwyr blynyddol o 30,000 i tua 150,000, ac mae sawl pen-blwydd a dathliad cofiadwy wedi bod ar hyd y blynyddoedd.

Un o’r prosiectau diweddaraf, yw’r cais am Statws Treftadaeth Byd i dirwedd llechi’r gogledd-orllewin, sydd wedi ei arwain gan Gyngor Gwynedd, er bod Dr Dafydd Roberts wedi bod yn rhan allweddol o hynny ers y cychwyn.

“Y peth gorau am y swydd yw…”

Wrth drafod ei gyfnod yn gweithio i Amgueddfa Lechi Cymru, dywedodd:

“Rwyf wedi mwynhau fy amser yn Amgueddfa Lechi Cymru yn aruthrol. Mae pob un diwrnod yn wahanol, ac mae’r misoedd diwethaf wedi dangos hynny yn fwy nag erioed.

“Ond yr amrywiaeth honno sydd wedi fy nghyfareddu dros y deugain mlynedd diwethaf,” meddai.

Dafydd yn gyrru Dorothea – un o injanau bach yr amgueddfa

“Y peth gorau am y swydd yw’r cyfle i esbonio i’n holl ymwelwyr hanes a phwysigrwydd y diwydiant rhyfeddol hwn – yn enwedig y bobl fu’n rhan o’r diwydiant, ac sy’n dal i fod.

“Edrychaf ymlaen at 2021, a’r holl gyfleoedd newydd fydd gen i, ond hefyd – gobeithio – at glywed cyhoeddiad bod diwydiant llechi gogledd Cymru wedi’i ddynodi yn Safle Treftadaeth Byd.

“Bydd Amgueddfa Lechi Cymru wrth galon y dehongliad wrth i ni gyflwyno hanes y chwareli i gynulleidfa fyd-eang.”

“Gadael bwlch fydd yn anodd iawn ei lenwi”

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

“Rwyf yn hynod o ddiolchgar i Dafydd am ei ymroddiad i Amgueddfa Lechi Cymru.

“Mae ei wybodaeth a’i angerdd am y diwydiant wedi bod yn arbennig o werthfawr dros y blynyddoedd a bydd yn gadael bwlch fydd yn anodd iawn ei lenwi.

“Mae wedi bod yn rhan o daith yr Amgueddfa ers y dechrau un, ac mae’r amgueddfa bellach yn un o brif sefydliadau diwylliannol ac atyniadau twristaidd y gogledd-orllewin.

“I’w arweinyddiaeth ef y mae llawer o’r diolch am hynny. Dymunwn yn dda iawn iddo yn ei ymddeoliad.”

Dafydd a staff yr amgueddfa ar achlysur 40 oed yr amgueddfa yn 2012