Heddiw, (Rhagfyr 15), mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio yn unfrydol o blaid cynllun i fuddsoddi dros £77 miliwn er mwyn sicrhau 1,500 o gartrefi fforddiadwy i drigolion lleol yng Ngwynedd.

Bydd y Cynllun Gweithredu Tai cael ei yrru gan yr Adran Tai ac Eiddo newydd ac yn cael ei weithredu dros gyfnod o chwe blynedd.

Yn ôl y Cyngor, bydd yr adran yn mynd i’r afael â’r prinder gartrefi addas sydd ar gael i bobol leol, gan ddweud ei fod yn “sefyllfa annheg ac anghyfiawn.”

“Datrysiadau clir i’r argyfwng”

Wrth gyflwyno’r cynnig heddiw (Rhagfyr, 15) dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai Cyngor Gwynedd (llun uchod):

“Rydyn ni’n wynebu crisis go iawn… ym maes tai yng Ngwynedd a Chymru ac mae rhaid i ni wneud rhywbeth amdano fo heddiw neu bydd yna ddim dyfodol i’r hyn rydyn ni’n ei garu.

“Mae’r cynllun gweithredu yma yn dangos ein bod ni fel Cyngor hefo rhywbeth i’w gynnig, rhywbeth sylweddol.

“Rydyn ni’n dangos ein bod yn deall y ddwy ochr i’r geiniog tai a chynllunio a bod ganddo ni ddatrysiadau clir i’r argyfwng.

“Mae’r cynllun gweithredu tai hwn yn dangos ein bod ni o ddifri am weithredu a gwneud pob dim o fewn ein gallu i weithredu ar y weledigaeth.”

“Does dim lle i neb fod yn pwyntio bys arnom ni”

Disgrifiodd y Cynghorydd Dafydd Meurig yr adroddiad fel “lwmp arbennig o waith”, sy’n amlygu’n glir yr ystod o anghenion sy’n bodoli a phwyntiau gweithredu clir i gyfarch yr anghenion hynny.

“Bellach, does dim lle i neb fod yn pwyntio bys arnom ni,” meddai, “i ddweud nad ydyn ni’n gwneud y gorau fedrwn ni.

“Efallai, yn y gorffennol ein bod wedi trio chwilio tu allan am atebion ac yn chwilio tuag at y Llywodraeth, sydd mewn gwirionedd ag pwerau llawer mwy nag ni i wneud gwahaniaeth.

“Bellach, dwi’n meddwl ein bod ni wedi sylweddoli nad ydi’r Llywodraeth yn Lloegr nag yng Nghymru yn mynd i wneud dim byd i’n helpu ni.

“Mae’n rhaid i ni wneud o ein hunain. Rydyn ni’n defnyddio bob twlsyn yn y bocs i wneud gwahaniaeth i bobl Gwynedd.”

“Mynd i’r afael a’r heriau mewn gwahanol ffyrdd”

Cafodd yr adroddiad ei groesawu gan y Cynghorydd Catrin Wager hefyd, am ei allu i fynd i’r afael ac amrywiaeth o heriau:

“Rydyn ni gyd yn gwybod fel Cynghorwyr faint o heriau mae pobl yn eu wynebu ym maes tai yn y Sir a beth sydd i’w longyfarch yw eich bod wedi mynd i’r afael a’r heriau mewn gwahanol ffyrdd.

“Mae o’n faes cymhleth ac mae ‘na wahanol ddatrysiadau i wahanol bobl, dydi o ddim dim ond am adeiladu tai, mae o’n gymaint mwy nag hynny.

 Amserlen

Wrth drafod yr amserlen ar gyfer gweithredu’r cynlluniau, dywedodd Pennaeth Adran Tai ac Eiddo Dafydd Gibbard:

“Ein nod yw cychwyn gweithredu cymaint o’r cynlluniau ac y gallwn ni o gychwyn y flwyddyn ariannol nesaf, sef y 1af o Ebrill.”

“Bydd rhai o’r cynlluniau’n cychwyn yn gynt na’i gilydd. Mae rhai ohonyn nhw yn gynlluniau newydd sbon ac felly mi fydd angen sefydlu telerau ac amodau, rhoi staff ar waith ac yn y blaen.”

Yng nghyfarfod y Cabinet, dywedodd y Cynghorydd Cemlyn Williams fod y cynllun yn “uchelgeisiol ond yn hynod realistig.”

Cyllid

Er mwyn gwireddu’r cynlluniau, bydd y Cyngor yn ail-fuddsoddi £22.9 miliwn o bremiwm treth Cyngor ar ail dai o hyn hyd 2026/27.

Yn ogystal, byddant yn defnyddio ffynonellau ariannol eraill gan gynnwys grantiau tai cymdeithasol a’r arian a ddyrannir drwy Gynllun Rheoli Asedau’r Cyngor.

Mae’r Adran Tai ac Eiddo wedi ei sefydlu ers dros flwyddyn bellach.

Eglurodd pennaeth yr adran, Dafydd Gibbard eu bod wedi bod yn llwyddiannus iawn yn denu arian grant yn ystod y cyfnod hwn:

“Hyd yma, rydym wedi bod yn hynod lwyddiannus ac wedi denu arian grant ar gyfer saith cynllun gwahanol,” meddai, “sef bob un cais rydyn ni wedi eu rhoi i mewn.

“Mae hynny, gan ein bod wedi gallu gweithredu yn sydyn ac wedi gallu rhoi cynlluniau cadarn o’n blaen.

Dywedodd eu bod wedi sicrhau £2,500 mewn arian grant hyd yn hyn a bod  mwy o grantiau ar gael erbyn hyn, nad oedd ar gael yn y gorffennol.

“Os fyddwn ni’n parhau i lwyddo fel yr ydym wedi llwyddo eleni – byddwn ni wrth ein boddau,” meddai.

Cynlluniau

Mae 30 o gynlluniau’r Cyngor ar draws y sir yn cynnwys y canlynol:

  • Hwyluso dros 500 o dai fforddiadwy newydd gan gynnwys adeiladu 100 o dai newydd i’w gwerthu neu osod i drigolion Gwynedd.
  • Cynnig benthyciadau ar gyfer 250 o brynwyr tro cyntaf lleol.
  • Sicrhau dros 600 o dai cymdeithasol newydd i Wynedd yn cynnwys prynu 72 cyn-dŷ cymdeithasol er mwyn eu rhentu i bobl leol yn unol â pholisi gosod lleol newydd y Cyngor.
  • Ymestyn cynllun grantiau i ddod a 250 o dai gwag yn ôl i ddefnydd ar draws y sir.
  • Buddsoddi mewn cartrefi eco-gyfeillgar fel y cynllun arloesol sydd ar waith ar hyn o bryd yn ardal Segontium, Caernarfon.
  • Datblygu 150 o unedau byw i bobl ddigartref yn y sir a chreu 130 o unedau newydd ar gyfer trigolion bregus.