Bydd y Blygain Rithiol gyntaf erioed yn cael ei chynnal y Nadolig hwn, gyda dwy noson o ganu carolau Plygain ar-lein ar nosweithiau Sul Ragfyr 20 ac Ionawr 3.

Mae’r traddodiad o ganu carolau Plygain i ddathlu’r Nadolig wedi parhau mewn sawl rhan o Gymru, gan gynnwys ym Maldwyn.

Rhian Davies o Fenter Iaith Maldwyn gafodd y syniad o gynnal Y Blygain Rithiol er mwyn parhau â’r traddodiad a dod â chymunedau ynghyd.

“Mae’r Blygain yn rhan bwysig o arferion tymor y Nadolig i nifer ohonom yma ym Maldwyn,” meddai Rhian Davies.

“Roedd meddwl am golli’r cyfle i ganu’r carolau traddodiadol hyfryd yma, a’r cymdeithasu a’r gwmnïaeth wedi peri siom mawr yn yr ardal.

“Roeddwn i’n awyddus iawn i lenwi’r bwlch rhywsut a lleddfu tipyn ar yr hiraeth yn y gymuned leol.

“Ond wrth gwrs, er mai ym Maldwyn mae’r Blygain ar ei chryfaf, mae Plygeiniau yn cael eu cynnal ar draws Cymru.

“Gan fod cynnal digwyddiad ar y We yn golygu bod modd cael cyfranwyr o bob rhan o’r wlad, roedd hyn yn cynnig cyfle i ni gynnal Plygeiniau rhithiol cenedlaethol.”

“Dangos ein traddodiad unigryw i’r byd”

Yn wahanol i wasanaeth Plygain arferol ni fydd y Plygeiniau Rhithiol yn cael eu cynnal mewn eglwys neu gapel, ond yn hytrach ar Facebook a YouTube.

Dywedodd Ffion Mair, o Lanwddyn yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, ac sydd wedi bod yn ganolog i gasglu perfformiadau pobol at ei gilydd: “Dw i mor falch ein bod ni wedi cael ymateb mor dda i’r syniad o gynnal gwasanaeth Plygain ar-lein gan unigolion a phartïon Plygain ledled Cymru.

“Bydd y gwasanaethau yn gyfle i ddod at ein gilydd fel cymuned a hefyd yn dangos ein traddodiad unigryw i’r byd.

“Rydym wedi ceisio cadw mor agos â phosib at drefn a naws Plygain go-iawn – bydd gweinidog yn ein croesawu i’r gwasanaeth, bydd Carol y Swper ar y diwedd ac, wrth gwrs, rydym wedi gwneud yn siŵr na fydd unrhyw un yn ailadrodd carol sydd eisoes wedi bod.”

Mae’r cynllun yn dilyn cydweithio rhwng y Mentrau Iaith, sy’n gweithio i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau, a Trac, sefydliad datblygu traddodiadau gwerin Cymru er mwyn codi ymwybyddiaeth y Cymry o’r traddodiad hynafol.

“Rydym ni, fel Trac, wrth ein bodd ein bod ni wedi gallu helpu Mentrau Iaith i greu’r digwyddiadau yma. Mae hi mor bwysig fod Plygain yn digwydd rywsut eleni ac mae symud y gwasanaethau ar y we yn gyfle gwych i rannu’r traddodiad â chynulleidfa newydd ac ehangach,” meddai Blanche Rowen, Rheolydd Cwmni Trac.