Mae Nigel Owens, y dyfarnwr mwyaf profiadol erioed, wedi ymddeol o rygbi rhyngwladol ar ôl 17 mlynedd.

Ar ôl dyfarnu ei gêm ryngwladol gyntaf rhwng Portiwgal a Georgia yn 2003, aeth ymlaen i ddyfarnu mewn pedwar Cwpan Rygbi’r Byd, gan gynnwys ffeinal Cwpan Rygbi’r Byd yn 2015 rhwng Seland Newydd ac Awstralia yn Twickenham.

Gêm Cwpan y Cenhedloedd Hydref Ffrainc v yr Eidal fis Tachwedd oedd ei 100fed gêm Brawf.

Wrth adlewyrchu ar ei yrfa mae’r dyfarnwr 49 oed o Mynyddcerrig yn cydnabod “does dim modd i neb fynd ymlaen am byth”.

“Daw adeg lle mae’n bryd symud ymlaen a gêm Ffrainc yn erbyn yr Eidal oedd fy ngêm brawf olaf. Mae gadael ar ôl 100 o gemau yn teimlo fel amser da i fynd,” meddai.

“Dydw i ddim yn mynd i fod o gwmpas ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2023, i ddweud y gwir dydw i ddim eisiau.

“Rwy’n gobeithio parhau i ddyfarnu yn y Pro 14 ac yn lleol yng Nghymru’r tymor hwn ac efallai’r tymor nesaf hefyd. Byddaf yn sicr yn parhau i ddyfarnu yn y gêm gymunedol oherwydd rwy’n credu ei bod yn bwysig dros ben rhoi rhywbeth yn ôl.

“Byddaf hefyd yn dechrau rôl hyfforddi gydag Undeb Rygbi Cymru, gan helpu rhai o’n ddyfarnwyr ifanc talentog sydd gennym yma yng Nghymru, felly mae hynny’n rhywbeth rwy’n eithaf cyffrous amdano.”

‘Llysgennad gwych i rygbi Cymru’

“Mae’n gyflawniad gwirioneddol anhygoel i ddyfarnwr gyrraedd 100 o gapiau,” meddai Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Rob Butcher.

“Mae Nigel bob amser wedi bod, ac yn dal i fod, yn llysgennad gwych tros rygbi Cymru ledled y byd. Mae’n esiampl ragorol i lawer, nid yn unig am ei ddyfarnu ond ym mhob agwedd o fywyd.

“Ynghyd â’r rhan fwyaf o wledydd sy’n chware rygbi, mae angen i ni barhau i recriwtio dyfarnwyr, a does neb yn well na Nigel i ysbrydoli swyddogion gemau Cymru yn y dyfodol.”