Mae Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r “dystiolaeth wyddonol sydd yn sail i’r penderfyniad” i gau ysgolion.

Ddoe (dydd Iau, Rhagfyr 11), cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y bydd pob ysgol uwchradd a choleg addysg bellach yn symud at ddosbarthiadau ar-lein o ddydd Llun (Rhagfyr 14) ymlaen.

Dywedodd y Gweinidog fod y penderfyniad yn rhan o “ymdrech genedlaethol i leihau trosglwyddiad y coronafeirws” ac yn dilyn cyngor gan y Prif Swyddog Meddygol sy’n dangos bod sefyllfa iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn “dirywio”.

A heddiw (dydd Gwener, Rhagfyr 11) mae cynghorau Caerdydd, Ceredigion, Abertawe a Bro Morgannwg wedi cyhoeddi eu bod yn cau eu hysgolion cynradd yn gynnar.

Bydd disgyblion yn cael eu haddysgu ar-lein am weddill y tymor.

“Nid dyma’r penderfyniad cywir”

Mae Comisiynydd Plant Cymru o blaid cadw’r ysgolion ar agor.

“Ar yr un diwrnod ag y cyhoeddodd y Cenhedloedd Unedig y dylid osgoi cau ysgolion yn genedlaethol ar bob cyfrif, a bod buddion cadw ysgolion ar agor yn trechu popeth arall, nid dyma’r penderfyniad cywir i blant a phobl ifanc Cymru,” meddai Sally Holland

“Er fy mod i’n derbyn difrifoldeb yr argyfwng iechyd cyhoeddus a bod yna gyfrifoldeb arnom ni gyd i gadw’n gilydd yn ddiogel, mae’r penderfyniad yma yn dwysau’r amhariadau i addysg ein plant dros y misoedd diwethaf.

“Dw i heb weld y cyngor gwyddonol sy’n cefnogi’r penderfyniad heddiw, na chwaith yr asesiad ar yr effaith fydd hyn yn anochel yn ei gael ar ein pobl ifanc.

“Dw i hefyd heb weld eglurhad o’r penderfyniad i bobl ifanc fydd yn cael eu heffeithio gyda’r penderfyniad yma ar fyr rybudd.

“Dw i ddim yn medru cefnogi’r penderfyniad ar hyn o bryd.

“Dw i’n annog y Llywodraeth i gyhoeddi ar frys ei hasesiad o ystyriaethau ar hawliau plant a’r dystiolaeth wyddonol sydd yn sail i’r penderfyniad yma.”

Y Ceidwadwyr yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o “negeseuon cymysg a dryslyd”

Wrth drafod y datganiad y bydd ysgolion uwchradd a cholegau yn cau ddydd Llun (Rhagfyr 14), dywedodd Gweinidog Addysg Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig, Suzy Davies AoS:

“Dyma enghraifft arall yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf o negeseuon cymysg a dryslyd yn dod o’r llywodraeth yma, ac nid yw’n ystyried gwahanol gyfraddau heintio ledled Cymru.

“Mae wythnos olaf tymor y Nadolig bob amser yn amser arbennig mewn ysgolion cynradd.

“Fodd bynnag, roedd y Prif Weinidog, ddydd Mawrth, yn swnio’n amheus ynghylch a fyddai plant ysgolion uwchradd yn wirioneddol fwy diogel gartref, er bod cyfraddau trosglwyddo uwch ymhlith disgyblion hŷn.

“Yr wyf yn rhannu ei bryderon ynglŷn â’r demtasiwn i gymysgu y tu allan i’r ‘swigod’ a ffurfiwyd mewn ysgolion, yn enwedig gan fod y cynnydd diweddar yn amlwg iawn ymysg pobol ifanc.

“Heddiw, mae’r Gweinidog Addysg, sy’n plygu i bwysau gan undebau athrawon, sydd fel petaent yn dominyddu addysg yng Nghymru, wedi cymryd safbwynt gwahanol.

“Hoffwn pe bai wedi gwrando ar arweinwyr ysgolion a fyddai’n dweud wrthi na allwch newid ysgol uwchradd gyfan i ddysgu ar-lein dros nos.

“Does dim dwywaith bod y sefyllfa’n ddifrifol mewn rhannau o Gymru, ond byddai’n well gen i gael ymyriadau wedi’u targedu lle bo angen, nid gwaharddiad cyffredinol arall.

“Mae llwyddiant dysgu ar-lein, a dweud y lleiaf, wedi bod yn dameidiog ledled Cymru.”