Mae bragdai bychain yng Nghymru wedi barnu cyfyngiadau newydd Llywodraeth Cymru, sy’n gwahardd gwerthu alcohol i’w yfed mewn tafarndai, bariau a bwytai ar draws y wlad.

Bydd y cyfyngiadau newydd yn dod i rym am 6yh heno (Rhagfyr 4), yn yr ymdrech i atal lledaeniad y coronafeirws.

Mae’r rheolau yn golygu bod cwrw da’n cael ei wastraffu a bod bragdai bychain Cymru’n dioddef colledion ariannol sylweddol, medden nhw.

Mae’r cyfarwyddwyr hefyd yn ei chael hi’n anodd deall y rhesymeg tu ôl i’r gwaharddiad, o ystyried y mesurau diogelwch sydd wedi eu rhoi ar waith o fewn y sector lletygarwch.

Er hynny, mae’n debyg bod y farchnad gwerthu poteli cwrw yn darparu rhywfaint o sefydlogrwydd i’w dyfodol.

“Bydd rhaid tollti cwrw”

“Mae o’n newyddion drwg iawn i’r diwydiant,” meddai Robat Jones, cyfarwyddwr Bragdy Lleu yn Nyffryn Nantlle.

“Mae o’n dod ar adeg prysur iawn o’r flwyddyn i bob bragdy – ond i fragdai bach, fyswn i’n dweud bod yr effaith yn waeth fyth.”

Dywedodd bod y cyfyngiadau newydd wedi achosi mwy o boen meddwl, gwaith ac ansicrwydd.

“Mae rhywun yn sympathetig tuag at y rhesymeg tu ôl iddo fo,” meddai Robat Jones, “ond mae’r diwydiant arlwyo a chynnyrch bwyd a diod yn llefydd sydd wedi gwario’n helaeth ar wneud eu llefydd yn ddiogel. Ac er bod neb yn gorfodi nhw i gau, i bob pwrpas, waeth iddyn nhw gau ddim.

“Y posibilrwydd ydi bydd rhaid tollti cwrw sydd wedi cael ei fragu ar gyfer gwerthu i dafarndai dros y cyfnod – dyna ydi’r perig.”

O ystyried bod dyddiad adolygu’r cyfyngiadau (Rhagfyr 17) yn agos iawn i’r Nadolig, dywedodd bod hynny’n gwneud y sefyllfa’n anoddach ac yn cynyddu’r risg o golledion ariannol.

Bragdy Lleu, Dyffryn Nantlle

Ochr yn ochr â’r cyfyngiadau newydd, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi pecyn cymorth gwerth £340 miliwn i’r diwydiant lletygarwch.

“Mae rhywun yn ddiolchgar o’r cymorth sydd ar gael,” meddai Robat Jones, “ond fydd o ddigon i achub busnesau a swyddi? Mae hynny’n gwestiwn arall.”

“Un cam yn rhy bell”

“Hyd yn hyn, rydym ni gyd wedi deall y rhesymeg tu ôl i’r cyfyngiadau – sydd yna i gadw pawb yn saff  – ond tro yma rydan ni wirioneddol yn ei chael hi’n anodd deall,” meddai Lawrence Washington, rheolwr gyfarwyddwr Bragdy Mŵs Piws ym Mhorthmadog.

“Doedd neb yn disgwyl y gwahardd o gwrw, felly dydi o ddim wedi rhoi llawer o amser i dafarndai sydd eisoes hefo stoc yn eu seleri i’w ddefnyddio … felly fydd cwrw’n cael ei wastraffu mewn tafarndai a bragdai fel ni.”

Eglurodd eu bod wedi treulio llawer o amser yn pendroni ynglŷn â bragu cwrw ar gyfer y Nadolig neu beidio.

“Mi benderfynom ni fragu batch ar gyfer y poteli a batch llai ar gyfer y casgenni,” meddai, “ond mae’n debyg fydd llawer o hynny’n mynd i wastraff rŵan… sy’n wirion.

“Dw i yn deall bod hyn er lles pawb ac i drio cadw pobl yn saff, ond mi’r ydyn ni o fewn y diwydiant yn teimlo bod y camau a gymerwyd ddydd Llun yn un cam yn rhy bell.”

Bragdy Mŵs Piws, Porthmadog

O’i gymharu â’r llynedd, mae’r bragwr cwrw yn rhagdybio bod busnes y cwmni lawr tua 50% a bod y sefyllfa wedi eu gwthio yn ôl oddeutu deng mlynedd. 

“Poteli ydi’r ffordd ymlaen”

“Poteli ydi’r ffordd ymlaen i ni ar y funud… tan fydd pethau’n ôl i ryw fath o normalrwydd,” meddai Richard Moore, cyfarwyddwr Cwrw Ogwen ym Methesda.

“O ran casgenni, does yna ddim point gwneud nhw – munud ti wedi tapio casgen mewn pub, does gen ti ddim ond chwe diwrnod… felly mae’r farchand yna’n finished.”

Dywedodd bod 12 mis o fywyd ar botel o gwrw, a bod hynny’n cymryd ychydig o bwysau oddi arnyn nhw.

“I fod yn onest, ar y funud mae poteli yn mynd reit easy ganddo ni – gan fod ffordd o fywyd pobl yn newid.

“Tydan ni ddim yn gwneud pres,” meddai, “mae o just yn cadw ni fynd.

“Rydan ni just yn mynd o wythnos i wythnos ar y funud.”

Cwrw Ogwen, Bethesda

“Sefyllfa anodd iawn i bawb”

Er ei fod yn cydnabod bod y farchnad gwerthu poteli cwrw yn darparu elfen o sicrwydd, dywedodd Robat Jones, cyfarwyddwr Bragdy Lleu, nad yw’n adlewyrchu’r hyn oedd yn ei obeithio ar gyfer y cyfnod.

“Mae yna gymaint o ansicrwydd, dydw i ddim yn siŵr faint fydd bobl yn ei wario ar luxuries  Dolig yma, wrth i bobl fod fwy tebygol o gynilo,” meddai.

“Mae hi’n sefyllfa anodd iawn i bawb.”