Mae cyn-filwr o Fangor wedi gwerthu ei fedalau am £150,000.

Bu’r Sarjant John Meredith yn brwydro yn Rhyfel y Falklands yn 1982, ac fe enillodd fedal am ymddygiad eithriadol – y Distinguished Conduct Medal – wedi iddo achub pump o’i gyd-filwr yn ystod Brwydr Goose Green.

Ar ôl 23 mlynedd yn y fyddin fe ymunodd gyda’r Fyddin Diriogaethol, gan wasanaethu yn Irac ac Afghanistan cyn ymddeol yn 2010.

Ac yntau bellach yn 70 oed, mae wedi gwerthu ei gasgliad o naw o fedalau ynghyd â llythyr gan Dywysog Cymru, a hynny er mwyn ariannu ei ymddeoliad.

Arweinydd ymroddedig

Yn y llyfr Above All Courage disgrifiwyd John Meredith fel “arweinydd ymroddedig”.

“Roedd Meredith, wrth gwrs, yn dal y cyfan at ei gilydd ac yn gwneud yn siŵr bod pawb yn parhau i weithio gyda’i gilydd – roedd yn aelod gwerthfawr, yn galed, a gyda’r gallu i feddwl yn ddoeth.

“Doedd dim yn ei boeni byth – rhywbeth oedd efallai o help, yn sicr i’w dîm.”

Ymddeoliad haeddianol

Roedd Christopher Mellor-Hill, un o arwerthwyr cwmni Dix, Noonan, Webb, ar ben ei ddigon o fod wedi gallu sicrhau pris o £150,000 am y medalau.

“Rydym wrth ein bodd gyda’r pris ac o fod wedi gwerthu i gasglwr o’r Deyrnas Unedig,” meddai.

“Mae Mr Meredith wedi cael gyrfa hynod nodedig ac rwy’n gwybod ei fod yn bwriadu defnyddio’r elw ar gyfer ymddeoliad haeddianol.”