Mae dyn yn ei 70au wedi marw ar ôl tân mewn tŷ yn Llangollen neithiwr.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw yn dilyn adroddiadau bod tŷ ar dân nos Iau (Rhagfyr 3) yn Stryd y Capel, Llangollen tua 8.42pm.

Roedd diffoddwyr tân o Langollen, Y Waun, Johnstown, Corwen a Wrecsam wedi’u galw i’r digwyddiad.

Daeth diffoddwyr tân o hyd i’r dyn yn y tŷ ond bu farw’n ddiweddarach.

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i achos y tân gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu’r Gogledd.