Mae’r cwmni hedfan Wizz Air yn bwriadu creu 40 o swyddi drwy agor llwybrau newydd ym maes awyr Caerdydd.

Fe fydd y cwmni yn cynnig naw o lwybrau newydd ar draws Ewrop a theithiau tymhorol i’r Aifft.

Mae disgwyl i’r cyhoeddiad fod yn hwb i’r maes awyr ar ôl i gwmni Flybe fynd i’r wal ym mis Mawrth a bu’n rhaid i’r safle, sy’n berchen i Lywodraeth Cymru, gau am gyfnod oherwydd y cyfyngiadau teithio.

Maes awyr Caerdydd fydd pedwerydd safle  Wizz Air yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Luton, Gatwick a Doncaster Sheffield.

Bydd y teithiau newydd yn cynnwys rhai i Alicante, Faro a Tenerife yn ogystal â theithiau yn yr haf i Corfu a Palma de Mallorca a Lanzarote a Sharm El Sheikh yn ystod y gaeaf.