Mae cwsmeriaid yn fodlon talu dwywaith y pris arferol am gig eidion o ansawdd uchel, yn ôl ymchwil newydd.

Mae’r ymchwil yn rhan o brosiect BeefQ sy’n cael ei redeg gan Brifysgol Aberystwyth, a’i ariannu a’i gefnogi gan Raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaeth Ewropeaidd.

Roedd 1,200 o bobol sy’n prynu ac yn bwyta cig eidion yn rheolaidd wedi bod yn rhan o’r paneli blasu.

Cafodd saith sampl o gig eidion o ansawdd amrywiol eu rhoi i bob person ac roedd gofyn iddyn nhw raddio ar raddfa 0-100 o ran pa mor frau yw’r cig, faint o sudd sydd ynddo, ei flas, a mwynhad cyffredinol.

Dangosodd dadansoddiad ystadegol o’r data bod pa mor frau yw’r cig, ei flas a mwynhad cyffredinol yn cael eu graddio’n gyfartal, tra bod faint o sudd sydd ynddo yn cael ei ystyried yn llai pwysig.

“Mae’r dadansoddiad hwn yn darparu tystiolaeth gadarn bod cwsmeriaid yn gallu gwahaniaethu’n glir rhwng pedwar categori o ansawdd bwyta, o’r anfoddhaol i’r premiwm,” meddai Dr Pip Nicholas-Davies, Cydlynydd y Prosiect BeefQ ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Mae’n ddiddorol ei bod yn ymddangos bod ein profwyr yn fwy sylwgar o ansawdd bwyta’r cig ar y ddau begwn na’r hyn a welir mewn gwledydd eraill lle mae gwaith tebyg wedi ei gynnal.

“Mae i hyn oblygiadau pwysig i frandiau lle y gall anghysondeb yn ansawdd y cig wrth ei fwyta effeithio ar ei werth.”

Dywedodd y cyfranogwyr eu bod yn fodlon talu dwywaith y pris am gynnyrch o ansawdd premiwm, ond yn teimlo bod cig eidion anfoddhaol yn werth 43% gwerth cig eidion o ansawdd bob dydd.

“Mae dadansoddiad y data cwsmeriaid wedi bod yn fewnwelediad gwerthfawr i ddisgwyliadau a chwaeth cwsmeriaid,” meddai Deanna Leven, Gweithredwr Datblygu’r Farchnad Allforio.

“Rydyn ni’n gwybod yn barod fod cig eidion o Gymru o ansawdd eithriadol o uchel, ond gallai system raddio gywir sydd wedi ei seilio ar ansawdd fod yn ffordd o wneud y diwydiant yn fwy proffidiol drwy blesio cwsmeriaid.”