Mae dynes 52 oed o Aberystwyth wedi ei charcharu am bedair blynedd a naw mis, wedi i’r heddlu ddarganfod gwerth £45,000 o heroin yn ei chartref.

Daeth y glas o hyd i 400 gram o’r cyffur caled ar aelwyd Susan Marie Proffitt ym mis Awst, ar ôl cael warant i chwilio ei chartref.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi dweud mai dyma un o’r cnydau mwyaf o heroin iddyn nhw ei ddarganfod mewn un lleoliad yng Ngheredigion.

Roedd yr heroin mewn sawl bag a oedd wedi eu cuddio o gwmpas y tŷ.

Fe blediodd Proffitt yn euog i gyhuddiad o fwriadu gwerthu’r heroin, a chael ei dedfrydu i  garchar yn Llys y Goron Abertawe.