Mae Neil McEvoy wedi awgrymu bod ei blaid yn hapus i gefnu ar ei hen enw, ac mai’r “hoff enw” sydd bellach dan ystyriaeth gan y Comisiwn Etholiadol.

Roedd yr Aelod o’r Senedd wedi gobeithio galw’r blaid yn Welsh National Party, ond mae’n honni bod y Comisiwn Etholiadol wedi gwrthod rhoi syniad ynghylch pryd y byddan nhw’n dyfarnu ynghylch yr enw.

Ac yn sgil cryn ffraeo rhyngddo fe, Plaid Cymru a’r Comisiwn, mae e bellach wedi cefnu ar yr enw hwnnw.

Bellach mae Welsh Nation Party (Plaid y Genedl Gymreig) wedi ei gyflwyno yn enw, ac mae Neil McEvoy yn ddigon hapus ei fyd â hynny.

“Mae yna lawer o ymwneud rhwng aelodau llawr gwlad a’r arweinyddiaeth,” meddai wrth golwg360.

“Bob mis, mae gan bob aelod gyfle i siarad â fi yn uniongyrchol.

“Rydym hefyd yn ymgysylltu â’r gymuned.

“A daeth yn glir bod yn well gan rhai y gair ‘nation’ i’r gair ‘national’.

“Wrth i ni fynd trwy’r haf daeth yn amlwg – o’r cyhoedd ac o aelodau – bod y Welsh Nation Party yn cael ei ystyried yn enw llawer mwy cynhwysol.

“Mae hynny’n adlewyrchu pa fath o blaid ydym ni.

“Felly mae tamaid bach yn eironig a dweud y gwir. Erbyn i ni gyrraedd y pwynt pan ddywedodd y Comisiwn Etholiadol eu bod yn methu rhoi terfyn amser i ni, Welsh Nation Party oedd yr hoff enw.

“Aethom ati wedyn i gyflwyno’r enw Welsh Nation Party a mynd trwy’r broses ffurfiol.”

Cefndir

Cafodd ‘Welsh National Partyei dderbyn gan y Comisiwn ym mis Ionawr, ond cafodd enw Cymraeg y blaid, ‘Plaid Genedlaethol Cymru’, ei wrthod oherwydd y byddai’n drysu pleidleiswyr.

Yn sgil hyn, mi wnaeth Plaid Cymru herio hawl Neil McEvoy i ddefnyddio’r enw Saesneg, felly cafodd yr enw hwnnw ei roi dan ystyriaeth o’r newydd.

Mae’r AoS – a fu’n aelod o Blaid Cymru cyn cael ei wahardd – yn honni bod y Blaid wedi gwrthwynebu’r enw diweddaraf.

“Dyma blaid sy’n cystadlu yn ein herbyn sy’n defnyddio arian, dylanwad, a dulliau cyfreithiol i rwystro plaid mae’n cystadlu yn ei herbyn rhag sefyll,” meddai.

“Cais maleisus”

Propel yw’r enw ar y mudiad a gafodd ei ffurfio gan Neil McEvoy cyn iddo gael ei wahardd o’r Blaid ac yn ddiweddar, bu ymdrech i gofrestru’r enw hwnnw â’r Comisiwn Etholiadol.

Dyw’r enw ddim dan ystyriaeth bellach, ond dyw’r AoS ddim yn hapus am yr ymgais.

“Wnaeth rhyw bobol gofrestru Plaid Propel,” meddai.

“Yn amlwg dyna oedd ein henw gwreiddiol – ac roeddem yn dal wedi’n cofrestru dan hynny hefyd.

“Cais maleisus oedd hynny’n amlwg,” mynna’r AoS.

Wrth ymateb i sylwadau diweddaraf Neil McEvoy, dywedodd llefarydd Plaid Cymru wrth golwg360:

“Fel y bydd Mr McEvoy yn ymwybodol – does gan Blaid Cymru ddim dylanwad dros bwy all gystadlu etholiadau.
“Ond mi fydd y Blaid yn parhau i gymryd camau i amddiffyn ei henw hanseyddol.”