Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei bod yn cefnogi’r syniad o sefydlu corff neu gomisiynydd annibynnol i blismona cyfraith amgylcheddol.

Ar hyn o bryd, gall y cyhoedd gwyno i’r Comisiwn Ewropeaidd, byddai’r corff newydd yn disodli’r trefniadau yma ar ôl i’r cyfnod pontio Brexit ddod i ben.

Fodd bynnag, mae’r gwrthbleidiau wedi dweud eu bod yn poeni na fydd amser i basio’r ddeddfwriaeth newydd tan ar ôl etholiad y Senedd fis Mai nesaf.

Cafodd opsiwn arall o ddibynnu ar gorff newydd amgylcheddol yn Lloegr ei wrthod gan Lywodraeth Cymru.

Pwysau i lenwi’r bwlch

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol hefyd wedi rhybuddio y gall y bwlch rhwng y ddau gomisiwn gael effaith ar yr amgylchedd yng Nghymru.

Yn dilyn adroddiad gan grŵp arbenigol, mae Gweinidog yr Amgylchedd, Lesley Griffiths, dan bwysau cynyddol i gyhoeddi’r drefn newydd mor fuan â phosib.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw penodi asesydd amgylcheddol dros dro er mwyn llenwi’r bwlch cyn derbyn argymhellion yr adroddiad bod angen sefydlu comisiwn amgylcheddol, sydd hefyd yn annibynnol o’r llywodraeth.

Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd

Am beth fydd y comisiwn newydd yn gyfrifol?

Bydd y comisiwn newydd yn gyfrifol am blismona cyfraith amgylcheddol yn yr un modd a bu’r Comisiwn Ewropeaidd yn rheoli materion amgylcheddol yn y gorffennol.

Er enghrhaifft, yn ddiweddar cafodd cwyn am effaith allyriadau gwenwynig o bwerdy glo Aberddawan ym Mro Morgannwg ei gyfeirio at y comisiwn.

Mae hefyd enghreifftiau o gwynion am lygredd amaethyddol yng Nghymru sydd wedi eu cyfeirio at y corff yn y gorffennol.