Mae Cyngor Sir Ceredigion yn rhybuddio pobol i barhau i ddilyn y cyfyngiadau coronafeirws wrth i nifer yr achosion godi i’w lefel uchaf ers dechrau’r ymlediad.

Fe fu cynnydd sylweddol mewn achosion dros yr wythnosau diwethaf, er gwaetha’r cyfnod clo dros dro a gafodd ei gyflwyno.

Dywed y Cyngor Sir fod yr achosion yn lledu trwy’r gymuned a’u bod nhw’n gysylltiedig â phartïon a gweithgareddau cymdeithasol eraill, a bod “y math hwn o ymddygiad yn gwbl anghyfrifol”, “yn peryglu iechyd ein hanwyliaid”, “yn cael effaith uniongyrchol ar addysg ein plant” ac “yn rhoi pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol”.

Yn ôl y Cyngor Sir, mae swyddogion olrhain cyswllt wedi nodi bod y gyfradd heintio ar gyfer pob achos positif wedi cynyddu, sy’n golygu bod cymysgu aelwydydd ac yn gymdeithasol wedi arwain at y cynnydd.

Mae’r Cyngor Sir eisoes wedi cyflwyno hysbysiadau gwella a chau i sawl busnes sydd wedi torri cyfyngiadau Llywodraeth Cymru, ac mae aelodau’r cyhoedd yn cael eu hannog i roi gwybod i’r awdurdodau am unrhyw achosion o dorri’r rheolau.

Y canllawiau

Mae’r Cyngor Sir yn atgoffa pobol o’r cyfyngiadau, sef:

  • Cadw bellter cymdeithasol o 2m oddi wrth ei gilydd pan fyddwch allan – dan do ac yn yr awyr agored;
  • Golchi eich dwylo’n rheolaidd;
  • Cyfyngu ar eich cyswllt cymdeithasol;
  • Gweithio o gartref lle bynnag y bo’n bosibl.
  • Gall aelwydydd ffurfio ‘swigen’ gyda’i gilydd – ni ellir cyfnewid, newid na hymestyn trefniant swigen ymhellach nag un aelwyd;
  • Caniateir i bobl gyfarfod ag eraill tu allan i’r swigen honno mewn lleoliad rheoledig, fel tafarn neu fwyty lle mae protocolau diogelwch llym ar waith. Ond, pedwar person yw nifer y bobl sy’n gallu cyfarfod a hyd yn oed wedyn dylid cadw pellter cymdeithasol lle bynnag y bo modd.
  • Gwisgo masg mewn mannau cyhoeddus dan do, siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus;
  • Os oes gennych unrhyw symptomau COVID-19, waeth pa mor ysgafn, rhaid i chi hunanynysu gartref a threfnu prawf ar unwaith, gan adael eich cartref yn unig i gael prawf. Mae angen archebu prawf ar-lein neu drwy ffonio 119.

“Cadwch hyd braich i leddu’r baich,” meddai llefarydd.

“Drwy wneud hyn, byddwn yn diogelu iechyd a lles ein pobl fwyaf bregus, gan gynnwys y gwasanaethau gofal ar gyfer yr henoed a’r sawl y mae eu cyflyrau meddygol yn peri eu bod yn arbennig o agored i niwed gan yr haint COVID-19.

“Byddwn yn diogelu’r ddarpariaeth addysg mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion.

“Byddwn yn galluogi’r economi leol i oroesi misoedd y gaeaf.

“Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.”