Mae tri o bobol yn cael eu holi yn y ddalfa ar ôl cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio dyn 58 oed yng Nghaergybi.

Cafodd dau o bobol, dyn 38 oed a dynes 44 oed, eu harestio fore ddoe (dydd Gwener, Tachwedd 20), a chafodd dyn 47 oed a gafodd ei arestio ddydd Mawrth mewn perthynas â’r digwyddiad ei arestio eto ar amheuaeth o lofruddio.

Mae Heddlu’r Gogledd yn parhau i apelio am wybodaeth a thystion.