Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi gofyn i blant gymryd rhan yn ei gystadleuaeth dylunio cerdyn Nadolig eleni.

Bydd y cynllun buddugol yn cael ei ddewis gan y Prif Weinidog ac yn cael ei ddefnyddio fel ei gerdyn Nadolig swyddogol.

Er nad yw’r enfys yn cael ei chysylltu â’r Nadolig, mae gofyn i blant rhwng saith ac 11 oed i, dalu teyrnged i weithwyr hanfodol drwy gynnwys y symbol yn eu cynllun.

“Rydw i’n edrych ymlaen at weld fy nesg, sydd fel arfer yn llawn pentyrrau o waith papur, wedi’i gorchuddio gyda chynlluniau llachar ac enghreifftiau o symbol yr enfys yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd Nadoligaidd,” meddai Mark Drakeford.

“Mae angen codi calon pob un ohonom ar ôl blwyddyn galed ac mae enfys bob amser yn gwneud imi wenu.

“Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at weld ffrwyth dychymyg y plant yn fy mag post.”