Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd gweithwyr gofal cymdeithasol yn y sector annibynnol yng Nghymru yn cael mwy o gymorth yn ystod y pandemig.

Bwriad y cymorth yw cynnig mynediad hawdd at gymorth llesiant i weithwyr gofal sydd wedi cael ei effeithio gan ei gwaith yn ystod y pandemig, wrth wynebu mwy o straen, wedi gorfod gweithio oriau hirach ac wedi gweld nifer uwch nag arfer o farwolaethau ymhlith eu cydweithwyr.

Bydd yn ychwanegu at wasanaeth cymorth llesiant sydd ar gael drwy wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae’r cynllun yn cael ei reoli drwy’r sefydliad Gofal Cymdeithasol Cymru, gyda chyllid o hyd at £200,000.

Bydd y cynllun ar gael i tua 55,000 o weithwyr gofal cymdeithasol yn y sector annibynnol.

“Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau a’n gwasanaeth iechyd,” meddai Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

“Maen nhw wedi chwarae rhan ganolog yn ein hymateb i bandemig y coronafeirws, ond ni ellir gorbwysleisio’r effaith y mae eu gwaith wedi ei chael ar eu hiechyd meddwl eu hunain ar adeg pan fo cymaint o bwysau arnynt.

“Os ydych chi’n weithiwr gofal ac yn cael trafferth ymdopi, rydyn ni’n gallu gweld y gwaith anhygoel rydych chi’n ei wneud ac yn gofyn ichi fanteisio ar y cymorth sydd yno i chi hefyd.”

Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: “Bob dydd, rydyn ni’n gweld miloedd o weithwyr gofal cymdeithasol yn cynnig gwasanaethau rhagorol i’r rhai sydd angen gofal a chymorth, a hynny yn y sefyllfaoedd mwyaf heriol sy’n peri gymaint o straen, yn sgil y pandemig ofnadwy hwn.

“Yn sgil hynny, mae mor bwysig ein bod yn cefnogi eu hiechyd a’u llesiant gymaint â phosibl. Mae hyn yn hanfodol nid yn unig i’r gweithwyr eu hunain, ond i’r rhai maen nhw’n eu cefnogi hefyd.

“Bydd y rhaglen cymorth i weithwyr newydd hwn yn rhoi hwb mawr i’r rhai sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, gan roi sicrwydd iddynt y gallan nhw gael gafael ar amrywiaeth o wasanaethau a all eu helpu nhw a’u teuluoedd drwy’r cyfnod eithriadol o anodd hwn.”