Flwyddyn wedi i elusen o Loegr gefnu ar gynlluniau i gyflwyno bleiddiaid i gefn gwlad Cymru, mae Arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Powys yn dal i bryderu mai pobol ddinesig sy’n gyrru’r “agenda gwyrdd.”

Bydd Elwyn Vaughan yn rhoi tystiolaeth ynghylch ail-wylltio gerbron un o bwyllgorau’r Senedd heddiw (Tachwedd 19).