Huw Lewis yw Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwadu bod cynlluniau ganddyn nhw i gyflwyno addysg Gymraeg i bob disgybl yng Nghymru, cam a fyddai yn disodli Cymraeg Ail Iaith.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, roedd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis wedi awgrymu ei fod yn bwriadu symud tuag at addysg Gymraeg i bob plentyn mewn cyfarfod ag ymgyrchwyr y mudiad ddydd Mercher.
Ond mae’r llywodraeth wedi gwadu hyn gan fynnu bod yr honiad ei fod wedi cytuno i bolisi addysg Gymraeg i bawb yn “gamarweiniol.”
Er hynny, mi wnaeth y llywodraeth gadarnhau bod y dyfyniadau o’r hyn ddywedodd Huw Lewis yn natganiad gwreiddiol Cymdeithas yr Iaith yn gywir.
Fe ddywedodd Huw Lewis y canlynol wrth y Gymdeithas: “Mae’r cysyniad o’r Gymraeg fel ail iaith yn gysyniad sydd ddim yn gweithio bellach, felly dyw hi ddim yn gwneud synnwyr o gwbl i gael cymhwyster o’r fath.”
Ochr Llywodraeth Cymru
“Tra bod y Gweinidog yn cydnabod, fel mae’r dystiolaeth yn dangos yn adroddiad Sioned Davies, bod problemau â’r ffordd y mae Addysg Gymraeg Ail Iaith yn cael ei chyflwyno, mae honni ei fod wedi cytuno i bolisi addysg Gymraeg i bawb yn gamarweiniol,” meddai llefarydd ar ran y llywodraeth.
Yn ôl y llefarydd, mae Huw Lewis wedi dangos ei fod am weld pobl ifanc yn gadael yr ysgol gyda sgiliau Cymraeg effeithiol sydd eu “hangen arnyn nhw yn y byd gwaith, bywyd ac astudio”.
“Mae sicrhau bod pobl ifanc yn gadael byd addysg gyda ‘chymhwysedd gweithrediadol’ yn y Gymraeg, a wnaeth Graham Donaldson gyfeirio ato yn ei adroddiad Dyfodol Llwyddiannus, yn hanfodol i’r llwyddiant o sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu,” ychwanegodd.
Ochr y Gymdeithas
“Rydyn ni’n croesawu sylwadau clir y Gweinidog yn y cyfarfod gyda ni ddoe bod y system bresennol yn methu ein pobl ifanc a bod angen ei thrawsnewid. Mae fe a’r Athro Sioned Davies yn credu bod angen un continwwm dysgu’r Gymraeg er mwyn llwyddo,” meddai Toni Schiavone, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith.
“Fodd bynnag, mae gyda ni bryderon y bydd rhai swyddogion a gwleidyddion yn ceisio tanseilio’r datblygiadau hollbwysig hyn a gweledigaeth y Gweinidog, newidiadau sy’n symud tuag at addysg Gymraeg i bawb.
“Rydyn ni’n galw ar swyddogion y Llywodraeth i weithredu argymhellion Yr Athro Sioned Davies, a gafodd ei gomisiynu gan y Llywodraeth ei hun. Dylai swyddogion cenedlaethol a lleol wëithredu ar y weledigaeth honno sydd wedi derbyn cefnogaeth gref drawsbleidiol a chan arbenigwyr.”
Yn 2012, fe wnaeth pwyllgor, a gafodd ei gadeirio gan yr Athro Sioned Davies, gyflwyno adroddiad i Lywodraeth Cymru yn dweud bod angen rhoi’r gorau i ddysgu ‘Cymraeg Ail Iaith’, a bod angen i bawb ddysgu Cymraeg ar yr un continwwm.