Mae Cynghorwyr ac Aelod o’r Seneddol wedi talu teyrnged i’r Cynghorydd Charles Wyn Jones a fu farw ddydd Iau (Tachwedd 5) 2020.

Cafodd ei eni’n fab i chwarelwr yn Llanrug, a bu yn byw yno ar hyd ei oes a chynrychioli’r pentref ger Caernarfon ar y cyngor sir am flynyddoedd lu.

Bu’n gwasanaethu ar Gyngor Cymuned Llanrug, Cyngor Bwrdeistref Arfon ac, ers 1995, ar Gyngor Gwynedd.

Roedd yn Gadeirydd ar Gyngor Gwynedd yn 2004-2005, a bu’n gwasanaethu ar lawer o bwyllgorau’r cyngor dros y blynyddoedd.

Gweithiodd i British Telecom (BT) am 30 mlynedd cyn iddo ymddeol, ac ef oedd Rheolwr a Phennaeth Adran Gynllunio’r cwmni yng ngogledd Cymru.

Ar ôl ymddeol bu’n ysgrifennydd Seindorf Arian Llanrug am gyfnod ac roedd yn un o sylfaenwyr Cangen Gwynedd o’r Gymdeithas Clefyd Alzheimer.

“Gŵr bonheddig”

Mae Cadeirydd presennol Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Edgar Wyn Owen, wedi talu teyrnged i Charles Wyn Jones:

“Roedd Charles yn ŵr bonheddig a oedd fel cynghorydd yn cael ei barchu gan holl grwpiau Cyngor Gwynedd.

“Bu’n gwasanaethu’n ddiflino ac yn effeithiol dros ei ardal a Chymru am flynyddoedd lawer a chaiff ei gofio fel aelod o gynghorau Arfon a Gwynedd, ac yn enwedig am ei gyfnod fel Cadeirydd Cyngor Gwynedd.

“Mae’n gadael gwagle mawr ar ei ôl – un fydd yn anodd iawn ei lenwi. Mae ein cydymdeimlad dwysaf yn mynd i’w deulu.”

“Braint cydweithio â Charles”

Dywedodd Arweinydd Grŵp Plaid Cymru Gwynedd, Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn:

“Bu’n fraint fawr cydweithio â Charles ar hyd y blynyddoedd, ac rydym fel cydweithwyr a chyfeillion yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu, ffrindiau a chymuned Llanrug o’i golli.

“Fe dreuliodd nifer o flynyddoedd yn cynrychioli Gwynedd ar Awdurdod yr Heddlu ac yna ar banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

“Bydd bwlch ar ei ôl, ond trysorwn yr atgofion lu.”

“Ffrind mawr i etholaeth Arfon”

“Gyda thristwch mawr y clywsom am golli’r Cynghorydd Charles Wyn Jones ac mae ein meddyliau heddiw gyda’i deulu a’i ffrindiau,”  meddai Aelod o’r Senedd dros Arfon, Siân Gwenllian.

“Roedd yn ffrind mawr i ni yn etholaeth Arfon, ac yn weithgar dros ei ardal. Rydym yn teimlo i’r byw dros ei deulu a’i ffrindiau yn ystod y cyfnod trist hwn ac yn ddiolchgar am gael ei adnabod.”