Mae 37 yn rhagor o bobol wedi marw o’r coronafeirws yng Nghymru, yn ôl ffigurau swyddogol.

Daeth y cadarnhad oddi wrth Jeremy Miles, Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, yn ystod cynhadledd i’r wasg brynhawn heddiw.

“Rydym yn parhau i weld cynnydd yn nifer y bobol sydd yn cael eu derbyn i’r ysbyty â symptomau coronafeirws,” meddai.

“Ddoe, fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) gofnodi saith marwolaeth yn rhagor. Heddiw mae’n flin gen i ddweud y bydd yn cadarnhau 37 yn rhagor o farwolaethau.

“Cydymdeimlaf â’r teuluoedd a ffrindiau sy’n galaru am anwyliaid. Mae’r ffigurau yn pwysleisio pam bod angen clo dros dro.”

Yn ddiweddarach yn y gynhadledd bu’r gweinidog yn ateb cwestiynau gan newyddiadurwyr, a holwyd pam bod cymaint o naid rhwng ffigurau ddoe a heddiw.

“Mae’r ffigurau rydym ni wedi gweld heddiw … yn dangos, mwy na thebyg, y lag yn yr amser rhwng y cyfnod pan mae rhywun yn cael ei heintio, y cyfnod maen nhw yn yr ysbyty, a’r cyfnod pan maen nhw’n anffodus yn colli eu bywydau,” meddai. “Felly mae’n debyg mae dyna sydd ar waith fan hyn.”

Ffigurau eraill

Mi ddechreuodd y gynhadledd trwy ddangos map o Gymru sy’n adlewyrchu lefel yr achosion ledled y wlad (rhwng Hydref 18 a Hydref 24).

Mae Sir Benfro, Ceredigion a Phowys, ymhlith y llefydd hynny sydd wedi eu heffeithio leiaf, meddai, tra mai Merthyr Tudful sydd â’r lefel uchaf yng Nghymru – 402.8 achos i bob 100,000 person.

Ledled Cymru mae yna 204 achos i bob 100,000 person. Gallwch weld y ffigurau yma.

Cofnodwyd 1,414 o brofion positif heddiw – er bod y gwir nifer yn debygol o fod yn uwch gan fod hyn ond yn adlewyrchu’r bobol sydd wedi derbyn prawf. Dywedodd mai dyma yw’r lefel uchaf ar gyfer diwrnod ers dechrau’r argyfwng.

Sylwadau’r Prif Weinidog

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, hefyd wedi son am ei dristwch am y marwolaethau.

“Rwy’n drist iawn mai 37 yw nifer y marwolaethau coronaidd y galon yng Nghymru a gofnodwyd dros y 24 awr ddiwethaf – y nifer uchaf mewn mwy na 6 mis,” trydarodd Mr Drakeford.

“Mae fy meddyliau gyda’r teuluoedd a’r ffrindiau sy’n galaru am rywun annwyl.”

“Ystadegau heddiw’n peri pryder”

Andrew R T Davies
Andrew RT Davies

Mae ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod 24 o’r marwolaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a phump yn ardal bwrdd iechyd Abertawe. Tynnu sylw at hynny wnaeth Andrew RT Davies, Gweinidog Iechyd Cysgodol y Ceidwadwyr, wrth ymateb i’r gynhadledd.

“Roedd yr ystadegau heddiw’n peri pryder,” meddai. “Yn enwedig ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf, ac rwyf wedi ysgrifennu at y gweinidog iechyd yn gofyn am ymchwiliad brys i heintiau’n cael eu trosglwyddo mewn ysbytai – sydd wedi mynd allan o reolaeth.”

“Camddefnydd bwriadol o ystadegau”

Yna, aeth Mr Davies ymlaen i feirniadu Jeremy Miles am awgrymu fod y 37 o farwolaethau oll wedi digwydd mewn un diwrnod.

“Mae’r camddefnydd bwriadol o ystadegau yn y briff i’r wasg heddiw, i bob golwg, dan arweiniad gweinidog adfer Covid Llywodraeth Lafur Cymru, yn peri gofid mawr i mi,” meddai mewn datganiad.

“Wrth annerch y genedl, dywedodd wrth bobl Cymru fod 37 o bobl wedi marw mewn un diwrnod yn anffodus. Fel y dengys y ffigurau, nid yw hynny’n wir o gwbl.

“Mae’r ffordd y mae’r gweinidog yn camddefnyddio data heddiw ymhell o fod yn is na’r hyn a ddisgwylir gan y rhai sydd mewn grym ac a ydynt yn y Senedd neu y tu ôl i’r ddarllenfa mae dyletswydd arnynt i fod yn gwbl dryloyw ac yn syth gyda’r cyhoedd.”

Fe wnaeth Jeremy Miles grybwyll “un diwrnod” yn y gynhadledd – ond, fel a nodir uchod, soniodd hefyd am yr oedi ystadegol oedd yn gyfrifol am y naid yn y ffigurau.