Mae dyn o Lysfaen, Hen Golwyn wedi’i arestio’r bore yma ar amheuaeth o gyflawni troseddau, gan gynnwys dinoethi anweddus a lladrata.

Mae’r dyn, 26 oed, yn cael ei gadw yn y ddalfa ar hyn o bryd ac yn aros i gael ei holi ymhellach.

Cafodd swyddogion Heddlu Gogledd Cymru eu hysbysu tua 7.56am heddiw fod dyn wedi dinoethi ei hun yn anweddus yn ardal Heol Gadlas.

Mae’r dyn hefyd wedi’i arestio ar amheuaeth o ladrata o Ysgol Cynfran, a chafodd hynny ei adrodd i’r heddlu yn ystod oriau mân y bore.

‘Tawelu meddwl’

“Mae’r dyn yn y ddalfa ar hyn o bryd, ac fe fydd yn cael ei holi am y troseddau hyn,” cadarnhaodd DCI Jason Devonport.

“Hoffem dawelu meddwl y gymuned, ac mae patrôl yn cael ei gynnal yn yr ardal.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiadau gysylltu â’r heddlu ar 101.

Fel arall, gallan nhw gysylltu’n uniongyrchol ar-lein neu, ffonio Taclo’r Taclau ar 0800 555111 – gan ddefnyddio’r cyfeirnod S153107.