Mae enw’r wraig fu farw yn dilyn damwain ar briffordd yr A470 ger Betws-y-coed, wedi’i gyhoeddi gan Heddlu Gogledd Cymru.

Roedd Jennifer Mary Taylor yn 72 mlwydd oed, ac yn dod o ardal Dolgarrog yn Nyffryn Conwy.

Mae’r heddlu’n dal i ymchwilio i achos y gwrthdrawiad rhwng beic modur a cherbyd, ac mae dyn 54 oed yn dal i dderbyn triniaeth yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar y rhif 101.