Heddiw mae llywodraethau, busnesau, sefydliadau anllywodraethol a’r cyhoedd ledled y byd yn ymuno i ddathlu Diwrnod Bwyd y Byd.
Mae Diwrnod Bwyd y Byd yn annog pawb yn y gymdeithas i fod yn fwy ymwybodol o beth a sut maen nhw’n bwyta.
Thema eleni yw ‘Tyfu, Porthi, Cynnal, Ynghyd’ ac mae’n tynnu sylw at yr angen i dyfu amrywiaeth o fwyd i borthi pobol a chynnal y blaned.
Mae hefyd yn gyfle i hyrwyddo’r cynhyrchwyr bwyd yn y gadwyn gyflenwi, rhywbeth sydd wedi dod yn bwysicach fyth i’n bywydau bob dydd yn ystod y misoedd diwethaf.
‘O ffermwyr, i gynhyrchwyr, i fanwerthwyr – diolch’
“Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn hynod o heriol i’n cynhyrchwyr bwyd ac mae hynny yn parhau”, meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig,
“Mae cynhyrchwyr bwyd a diod wedi dangos gwydnwch mawr wrth barhau i fwydo’r genedl yn ystod y cyfnod anodd hwn, a dylid dathlu eu gweithlu hanfodol fel arwyr cudd.
“Heddiw ar Ddiwrnod Bwyd y Byd, hoffwn dalu teyrnged i bawb sy’n gweithio yn y gadwyn cyflenwi bwyd – o ffermwyr, i gynhyrchwyr, i fanwerthwyr – diolch.”
Mwy o bobol yn llwglyd oherwydd Covid-19
Wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 75 oed, mae Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig, sy’n gyfrifol am Ddiwrnod Bwyd y Byd, yn parhau i godi ymwybyddiaeth o’r rhai sy’n dioddef o newyn ac am yr angen i sicrhau diet iach i bawb.
Yn ôl y Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth, mae bron i 690 miliwn o bobol ledled y byd yn llwglyd ac mae’r ffigur hwnnw wedi cynyddu 10 miliwn ers 2019.
Amcangyfrifir y gallai 83-132 miliwn yn rhagor o bobol fynd yn llwglyd oherwydd effeithiau economaidd pandemig Covid-19.