Mae dau o bobol oedd yn teithio ar feic modur wedi cael eu hanafu’n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad ym Metws-y-Coed.

Roedd eu beic mewn gwrthdrawiad gyda char Nissan Qashqai ar yr A470 am 2.15 brynhawn Sul.

Cafodd y ddau eu cludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Mae ymchwiliad ar y gweill ac mae’r ffordd ynghau.

Mae Heddlu’r Gogledd wedi apelio am dystion.