Mae anghydweld ar Ynys Môn ynghylch gadael i lorïau barcio ger safle Sioe Môn, yn y cyfnod ar ôl Brexit.

Bydd angen safle ar yr ynys i lorïau barcio er mwyn i’r gyrwyr ddangos eu papurau perthnasol.

Ond mae’r cyngor sir wedi gwrthwynebu defnyddio safle parcio Mona ger tir Sioe Môn, oherwydd ofnau am effaith traffig ar yr ardal.