Mae Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio tros roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r broblem tai haf yno.

Rhwng Mawrth 2019 ac Ebrill 2020, roedd 38% o eiddo a werthwyd yng Ngwynedd yn destun cyfradd uwch y dreth preswyl o dan y Dreth Trafodiadau Tir, cyfradd sy’n cael ei thalu ar ail gartrefi ac eiddo prynu-i-osod ymhlith eraill, yn ôl ystadegau diweddaraf Awdurdod Cyllid Cymru.

Ac mae data tai Cyngor Gwynedd yn awgrymu bod 59% o bobol y sir yn methu fforddio prynu tai yno.

Brynhawn ddydd Iau wnaeth cynghorwyr Gwynedd bleidleisio o blaid cynnig yn galw ar y Llywodraeth “i newid y Ddeddf Gynllunio fel ei bod yn orfodol cael hawl cynllunio i drosi tŷ annedd yn dŷ haf.”

Roedd y cynnig hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio’r drefn fel bod modd rhoi trothwy ar ganran y stoc dai all fod yn ail gartrefi – 5% yw’r ganran a gynigir.

“Rhaid gweithredu”

Cynghorydd ward Nefyn, Gruffydd Williams, wnaeth gyflwyno’r cynnig, ac mae yntau’n dweud bod y sefyllfa’n gwaethygu yn ei ardal.

“Yma’n lleol yn Nefyn, mae’r Cyngor Tref wedi trafod y mater ac yn gweld y sefyllfa yn yr ardal yn argyfyngus,” meddai.

“Mae’n cael effaith negyddol ar ein trigolion, ar ein cartrefi, ar ein pentrefi a’n hardaloedd ac ar ein hiaith. Mae’r sefyllfa yn newid ethos llwyr ein cymunedau arfordirol gwledig Gymreig.

“Mae’n rhaid gweithredu a holi am hawliau yn y ddeddf.”

Gorymdeithio

Yn siarad â Golwg yr wythnos hon mae Elfyn Llwyd, cyn-AS Dwyfor Meirionydd, wedi galw am gam tebyg, ac wedi galw am ganiatáu cynghorau i lunio cofrestrau tai haf.

Daw’r alwad gan Gyngor Gwynedd yn sgil gorymdaith o Nefyn i Gaernarfon i dynnu sylw at y broblem.