Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford ei fod yn amau bod elfennau gwrthwynebus i ddatganoli o fewn llywodraeth Prydain yn mynd ati’n fwriadol i rwystro trafodaethau rhyngddo a Boris Johnson.

Mae o’r farn fod “lleisiau” o fewn y llywodraeth Geidwadol nad ydyn nhw’n hoffi datganoli a bod arnyn nhw eisiau i bob penderfyniad gael ei wneud yn Whitehall.

Wrth siarad LBC y bore yma, dywedodd Mark Drakeford fod arno eisiau cyswllt mwy rheolaidd a dibynadwy â Phrif Weinidog Prydain, yn lle’r cyfarfodydd achlysurol sy’n digwydd ar hyn o bryd.

“Heblaw sgwrs a gefais ddydd Llun a chyfarfod Cobra ddydd Mawrth, y tro diwethaf imi siarad gyda Mr Johnson oedd ym mis Mai,” meddai.

“Dyw’r sgyrisau hynny ddim wedi bod yn ddigon rheolaidd nac yn ddigon dibynadwy.

“Yr hyn nad oes arnaf eisiau yw cyfarfodydd dirybudd, yn cael eu galw mewn argyfwng, ac wedyn wythnosau o ddistawrwydd.”

Wrth gael ei holi pam nad oes trafodaethau rheolaidd yn digwydd, meddai:

“O gymryd barn garedig, mae’r Prif Weinidog yn anhygoel o brysur, mae ganddo amrediad helaeth o gyfrifoldebau ac mae pawb ohonom yn ymateb i amgylchiadau sy’n newid yn gyflym iawn.

“Dw i’n meddwl fod esboniad arall. Sef fod yna rai lleisiau yn y llywodraeth Geidwadol sydd wedi darganfod ar ôl 20 mlynedd fod y fath beth â datganoli. Maen nhw wedi canfod nad ydyn nhw’n ei hoffi, yn meddwl y byddai’n llawer gwell troi’r cloc yn ôl 20 mlynedd a phob penderfyniad yn cael ei wneud yn Whitehall, ac y byddai’n well ganddyn nhw beidio â threulio’u hamser yn siarad gyda ni.”