Mae hobi lle mae pobol yn mynd i gopâu mynyddoedd a siarad gyda phobol ar draws y byd gyda radio yn codi mewn poblogrwydd yn ôl Allan Jones o Lanbedr Pont Steffan.

Mae Allan Jones, cyn-athro Dylunio Technoleg a Thechnoleg Gwybodaeth, yn rhan o gymdeithas amaturiaid radio SOTA (‘Summits on the Air‘), sy’n gweithredu mewn bron i 100 o wledydd.

“Y syniad ydi ein bod ni’n mynd ar ben mynyddoedd a gosod radio er mwyn gallu siarad gyda phobol ar draws y byd,” eglura Allan Jones.

“Rydan ni’n cael pwyntiau am fynd ar ben mynydd a gosod radio ac mae pobol yn cael pwyntiau os ydyn nhw’n ateb hefyd.

“Mae gwahanol fynyddoedd werth gwahanol bwyntiau, felly mae mynyddoedd bach werth llai.

“Yna, ryden ni’n cofnodi’n pwyntiau ar fas data SOTA ac yn cael tystysgrifau ac ati.”

Mae Allan Jones wedi derbyn un o brif dystysgrifau SOTA, sef ‘Mountin Goat’.

“Rwyt ti angen mil o bwyntiau i gael ‘Mountain Goat’ felly mae’n dipyn o gamp,” meddai Allan Jones.

“Dechreuais i gyda mynyddoedd llai fel Cadair Idris, ac wedyn symud ymlaen i rai fel Y Wyddfa a Ben Nevis, oedd yn fwy o sialens.

“Rydw i bellach yn gweithio tuag at gael ail ‘Mountain Goat‘.”

Cymdeithasu

Mae’r ochr gymdeithasol hefyd yn apelio i Allan Jones.

“Yn sicr, mae o’n ffordd wych o gymdeithasu gyda phobol.

“Dw i wedi siarad gyda phobol yn America, yn Awstralia, ar draws y byd… a dw i’n mwynhau siarad gyda phobol am be’ dw i’n gallu ei weld o fy nghwmpas neu am y tywydd.

“Rydan ni’n cymdeithasu o bell mewn ffordd a dw i wedi gwneud lot o ffrindiau wrth siarad gyda gwahanol bobol.”

“Mae o’n dod yn fwy poblogaidd”

Yn ôl Allan Jones, mae’r weithgaredd yn “dod yn fwy poblogaidd yn ddiweddar, yn enwedig ers y lockdown.

“Dw i wedi dod ar draws mwy o bobol yn gwneud hyn, a lot mwy o bobol ifanc yn enwedig sy’n braf i’w weld.”

Mae Allan Jones hefyd yn brolio rhinweddau ffitrwydd y weithgaredd.

“Mae o’n dy gadw di’n ffit hefyd gan dy fod yn dringo mynyddoedd, dw i’n 68 wan a dw i dal reit ffit oherwydd hyn.”