Mae Neuadd Pantycelyn yn ailagor ei drysau i fyfyrwyr am y tro cyntaf ers 2015.

Ar ôl buddsoddiad o £16.5m mae “neuadd breswyl enwocaf Cymru” yn cynnig llety en-suite newydd sbon ar gyfer hyd at 200 o fyfyrwyr – ac mae rhai o ystafelloedd mwyaf adnabyddus y Neuadd, y Lolfa Fawr, y Lolfa Fach a’r Ystafelloedd Cyffredin Hŷn ac Iau wedi eu gweddnewid.

Yn ogystal â buddsoddiad gan y Brifysgol ei hun, derbyniodd y prosiect £5m gan raglen Addysg ac Ysgolion Llywodraeth Cymru.

‘Llunio’r bennod nesaf’

Mae’r neuadd hefyd yn gartref i UMCA – Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth – tîmau chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol Y Geltaidd, ac Aelwyd Pantycelyn.

“Mae ailagor Pantycelyn yn gam pwysig iawn i bawb yma ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae’r cyfleusterau yn y neuadd newydd yn wych”, meddai Moc Lewis, Llywydd UMCA.

“Fel llais y myfyrwyr, mae’n bwysig i ni fod swyddfa UMCA yma yn y Neuadd fel ein bod yn rhan o’i bywyd dyddiol ac yn cefnogi’r gymuned bwysig hon.

“Rydym yn ymwybodol iawn o gyfraniad anhygoel y Neuadd dros y degawdau; ein tro ni yw hi nawr i lunio’r bennod nesaf, ac mae heddiw yn ddechrau cyffrous i’r bennod honno yn hanes Pantycelyn.”

Moc Lewis, Llywydd UMCA

‘Penllanw taith bwysig’

Mae ailagor y neuadd yn “benllanw taith bwysig” i Brifysgol Aberystwyth yn ôl yr Is-Ganghellor, Elizabeth Treasure.

“Wrth ailagor Pantycelyn rydym yn datgan yn glir ein hymroddiad at y Gymraeg a diwylliant Cymru”, meddai

“At ddarparu cartref cyfoes a chyffrous i do newydd o fyfyrwyr sydd wedi dewis ymuno gyda ni yma yn Aberystwyth, a phrofi rhagoriaeth academaidd ein Prifysgol, mewn cymuned lle mae’r Gymraeg yn iaith naturiol dydd i ddydd.”

Yn gynharach eleni bu rhaid i’r brifysgol drosglwyddo ei holl addysgu ar-lein oherwydd y coronafeirws.

Bwriad Prifysgol Aberystwyth yw ceisio cynnwys cymaint o addysgu wyneb yn wyneb ag sy’n bosib pan fydd yn ail agor ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21.

I ddiogelu myfyrwyr bydd mesurau ymbellhau cymdeithasol priodol ar waith ar draws y campws, gan gynnwys mewn neuaddau preswyl.

‘Adeilad eiconig’

Wrth agor y Neuadd yn swyddogol dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams ei bod hi’n edrych ymlaen at weld y neuadd yn gartref i fyfyrwyr Cymraeg am flynyddoedd lawer i ddod

“Mae Pantycelyn, a chymuned ehangach Aberystwyth, yn bwysig wrth feithrin y defnydd o’r Gymraeg”, meddai.

“Mae Neuadd Pantycelyn yn adeilad eiconig o fewn y gymuned Gymraeg ei hiaith ac mae wedi bod yn rhan o wead yr iaith yn lleol ers degawdau, yn ogystal â bod yn bair o dalent i fyfyrwyr sy’n mynd ymlaen i chwarae rhan bwysig yng Nghymru ac yn rhyngwladol.”

Mae’r neuadd yn hwyr yn cael ei hagor – Medi 2019 oedd y dyddiad gwreiddiol – ac mae ei chost i fyfyrwyr (£5,512 y flwyddyn) yn fater dadleuol hefyd.

Bydd yr ystafelloedd modern newydd yn syndod i rai cyn-breswylwyr

Cefndir

Agorwyd Pantycelyn am y tro cyntaf yn 1951 fel neuadd i fechgyn, a daeth yn Neuadd Gymraeg yn 1974.

Fe fu’r neuadd yn gartref i’r hanesydd blaenllaw ac awdur Hanes Cymru, y diweddar Dr John Davies, a fu’n warden yno rhwng 1974 a 1992.

Bu’r Tywysog Charles hefyd yn aros yn y neuadd yn 1969 .

Yn wreiddiol, cyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth ei bod yn bwriadu cau Neuadd Pantycelyn a symud y myfyrwyr Cymraeg i lety newydd Fferm Penglais.

Fe fu protestio mawr gan UMCA a Chymdeithas yr Iaith am hynny, ac arweiniodd hyn at dro pedol.