Mae 455 o ddisgyblion chweched dosbarth, ac aelodau o staff, mewn ysgol yn Abertawe yn gorfod hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl i ddisgybl brofi’n bositif am Covid-19.

Ers ail agor mae dros 50 o ysgolion yng Nghymru wedi gofyn i ddisgyblion a staff hunan ynysu.

Mewn llythyr at rieni dywedodd Hugh Davies, pennaeth Ysgol Gyfun yr Olchfa bydd modd i ddisgyblion eraill barhau i fynychu’r ysgol.

Ond mae wedi cynghori rhieni i gadw llygad ar symptomau eu plant a bod yn barod i hunan ynysu os oes angen.

“Mae holl gysylltiadau agos yr unigolyn wedi derbyn cyngor priodol i hunan ynysu. Nid oes angen i blant nad ydyn nhw wedi’u nodi fel cyswllt agos hunan ynysu ac nid oes angen eu profi am y feirws”, meddai llefarydd ar ran Cyngor Abertawe.