Prifysgol Caerdydd yn y 200 gorau am y tro cynta
Mae pedair ‘hen’ brifysgol Cymru wedi ennill eu lle ymhlith 400 prifysgol ymchwil gorau’r byd, yn ôl tabl gan y Times Higher Ed.

Prifysgol Caerdydd sydd wedi cyrraedd  y safle ucha’ – 182 – wrth i wledydd Prydain ddod yn ail yn y rhestr i’r Unol Daleithiau. Dyma’r tro cynta’ iddi gyrraedd y 200 gorau.

Mae Prifysgol Abertawe yn y rhestr am y tro cynta’, yn y safleoedd rhwng 350 a 400 tra bod Bangor ac Aberystwyth ymhlith y rhai rhwng 301 a 350.

Rhybudd y golygydd

Yn ôl golygydd y rhestr, Phil Baty, mae prifysgolion gwledydd Prydain wedi gwneud yn dda eleni ond fe allen nhw ddiodde’ yn y tymor hir oherwydd toriadau gwario.

Mae’r rhestr, meddai, yn cael ei chreu trwy ddefnyddio meini prawf byd-eang gan gynnwys dysgu, ymchwil, trosglwyddo gwybodaeth ac agwedd ryngwladol.

Prifysgol Rhydychen yw’r ucha’ ar y rhestr o wledydd Prydain – yn yr ail safle.